Mae Annabel Lloyd wedi’i phenodi i rôl Cyfarwyddwr Cymorth a Gwella Gwasanaethau yng Ngofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd Annabel yn ymgymryd â’r rôl ym mis Mawrth 2027, yn lle Lisa Trigg sy’n ymddeol ym mis Mawrth.
Mae Annabel yn ymuno â ni o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf lle mae hi ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Plant, yn gyfrifol am wasanaethau sy'n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Yn ystod ei gyrfa, mae Annabel wedi gweithio mewn rolau gofal cymdeithasol ledled Cymru sy’n cwmpasu ymarfer rheng flaen, rheoli gweithredol ac arweinyddiaeth strategol, ac mae hi’n gyn-Gadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan.
Yn angerddol am roi pobl wrth wraidd y gofal a’r cymorth y maen nhw’n eu derbyn, mae gwaith Annabel wedi cwmpasu atal ac ymyrryd yn gynnar, diogelu, datblygu’r gweithlu, trawsnewid gwasanaethau a chomisiynu.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Yn dilyn proses recriwtio gystadleuol, rwy’n falch iawn y bydd Annabel yn ymuno â ni y flwyddyn nesaf yn lle Lisa Trigg, sy’n ymddeol ar ôl naw mlynedd yng Ngofal Cymdeithasol Cymru ar ôl gwneud cyfraniad eithriadol i'n gwaith.
“Mae Annabel yn dod â chyfoeth o brofiad strategol a gweithredol ym maes gofal cymdeithasol, a gwnaeth argraff ar y panel cyfweld gyda’i gweledigaeth glir, ei harweinyddiaeth sy’n seiliedig ar werthoedd a’i hymrwymiad cryf i wella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant ac yn gyn Gadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan, mae Annabel wedi dangos ei harweinyddiaeth yn Rhondda Cynon Taf ac ar draws Cymru.
“Bydd ei hangerdd dros gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd, ochr yn ochr â’i hymrwymiad i gydweithio a gwella parhaus, yn ased aruthrol i ni.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Annabel ‘'r tîm a gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i helpu i lunio a chefnogi dyfodol gofal cymdeithasol.”
Dywedodd Annabel: “Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn teimlo’n freintiedig o gael y cyfle hwn.
“I mi, mae’r rôl hon yn ymwneud â dod â phobl, profiad, tystiolaeth a syniadau newydd at ei gilydd i wneud gwahaniaeth ymarferol i’r gweithlu ac, yn bwysicaf oll, i’r bobl sy’n dibynnu ar ofal cymdeithasol.
“Mae gofal cymdeithasol wedi bod wrth wraidd fy mywyd gwaith ac mae wedi bod yn anrhydedd enfawr gweithio ochr yn ochr â chymaint o bobl wirioneddol wych yn Rhondda Cynon Taf.
“Trwy gydol fy ngyrfa, rwy wedi gweld y gwahaniaeth y mae pobl fedrus, gwerthfawr a chymorth dda yn ei wneud i unigolion, teuluoedd a chymunedau.
“Er y bydda i’n colli’r bobl rydw i wedi gweithio gyda nhw yn Rhondda Cynon Taf, rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod fy nghydweithwyr a’m partneriaid newydd ledled Cymru, ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd wrth i ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes ar y gweill.”