Jump to content
Codau Ymarfer Proffesiynol newydd mewn lle
Newyddion

Codau Ymarfer Proffesiynol newydd mewn lle

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi diweddaru ein Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr a chyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i'w gwneud yn gliriach ac yn haws i'w dilyn. 

Codau newydd

Dylai gweithwyr a chyflogwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru nawr fod yn gweithio i’r codau newydd. Nid ydy’r codau blaenorol yn cael eu defnyddio bellach. 

Mae'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol a'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol yn safonau sy'n nodi'r hyn a ddisgwylir gan bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel. 

✅ Rhaid i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni ddilyn y Cod Gweithwyr. 

Beth sydd wedi newid?

Bachgen yn ei arddegau mewn cadair olwyn yn yr ardd ar ddiwrnod heulog

Fe wnaethon ni wrando ar adborth, ac rydyn ni wedi gwneud y codau'n symlach ac yn fyrrach. Rydyn ni hefyd wedi diweddaru ein canllawiau ymarfer, sy'n esbonio sut i ddefnyddio’r Cod Gweithwyr mewn ymarfer o ddydd i ddydd. 

Nid yw'r safonau ymarfer ac ymddygiad wedi newid. 

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gweithio i'r safonau yn y Cod Gweithwyr. Rhaid iddyn nhw:

  • helpu'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw i ddweud a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw
  • parchu barn, hawliau a dymuniadau unigolion
  • cefnogi llesiant unigolion a helpu i'w cadw'n ddiogel
  • bod yn onest ac yn ddibynadwy
  • bod yn gymwys i wneud eu gwaith yn iawn.

Mae rhoi egwyddorion y Cod ar waith bob dydd yn golygu bod gweithwyr yn helpu i gadw pobl yn ddiogel. Mae hefyd yn dangos bod gofal cymdeithasol yn broffesiwn dibynadwy a pharchus.

Clywch gan weithwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol

Yn y fideo yma mae gweithwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol yn dweud wrthym sut maen nhw'n defnyddio'r codau yn eu hymarfer o ddydd i ddydd, i arwain eu gwaith a chadw'r bobl maen nhw'n gofalu amdanyn nhw'n ddiogel.

Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael. Cliciwch ar CC ar y fideo i ddewis iaith. 

Ble i gael rhagor o wybodaeth

Mae'r codau a'r canllawiau ymarfer ar gael ar ein gwefan, ynghyd ag adnoddau eraill sy’n cynnwys:

  • canllaw cyflym sy’n dangos y gwahaniaethau rhwng y codau blaenorol a’r codau newydd
  • trosolwg hawdd ei darllen o’r Cod Gweithwyr
  • trosolwg Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o’r Cod Gweithwyr
  • canllaw i blant a phobl ifanc am y Cod Gweithwyr
  • taflen 'Chi a'ch gweithiwr gofal cymdeithasol', i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth.

Apiau:

Fel rhan o’r newidiadau, rydyn ni wedi tynnu apiau’r cod blaenorol o'r App store / siop Google Play. Mae’r codau a chanllawiau ar gael ar ein gwefan mewn fformat addas i ffonau symudol.

Gweld y Codau Ymarfer Proffesiynol

Gweld y codau, canllaw ymarfer ac adnoddau