Mae Grant Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP) yn raglen grant hir-sefydlog sy’n cefnogi addysg, dysgu a datblygu’r gweithlu ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi’r adroddiad themau a chanfyddiadau cenedlaethol, sy’n dangos sut y buddsoddwyd y grant SCWWDP gan ranbarthau yn 2024 i 2025, gan amlygu prif dueddiadau, llwyddiannau a meysydd i ddatblygu yn y dyfodol.
Prif ganfyddiadau 2024 i 2025 yw:
- cynnydd o 0.5 y cant (£61,542) yn y gwariant cyffredinol ar SCWWDP, o £12,694,344 i £12,755,886
- tyfiant o 4.2 y cant i fuddsoddiad ychwanegol gan awdurdodau lleol (uwchlaw’r gofyniad cyfatebol o 30 y cant), gan wrthdroi’r dirywiad y llynedd.
Yn 2024 i 2025, cefnogodd y grant SCWWDP ystod eang o addysg, dysgu a datblygiad gan gynnwys:
- 2,486 o ddysgwyr cymwysterau galwedigaethol – cynnydd o 31.6 y cant ers y llynedd
- 693 o bobl ar hyfforddiant cymhwyso gwaith cymdeithasol – cynnydd o 2.2 y cant ers y llynedd
- 134,526 o leoedd hyfforddi, gyda chyfradd presenoldeb o 86.2 y cant, a gwell cyfranogiad gan ddarparwyr y sector gwirfoddol a phreifat.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr “Rydyn ni am i’r gweithlu gofal cymdeithasol fod yn frwdfrydig, ymroddedig a gwerthfawr gyda’r capasiti, cymhwysedd a hyder i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl Cymru. Mae datblygu’r gweithlu yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni hyn, ac mae’r grant SCWWDP yn gwneud cyfraniad allweddol i ddatblygu’r gweithlu yn ranbarthol.
“Mae awdurdodau lleol yn arwain partneriaethau rhanbarthol sy’n cynnwys y sector statudol, preifat a gwirfoddol, yn ogystal â darparu cyllid cyfatebol i ddarparu ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
“Rydyn ni’n falch o gyhoeddi’r themâu a’r canfyddiadau cenedlaethol o ddefnydd rhanbarthol y grant SCWWDP yn 2024 i 2025. Mae’r adroddiad hwn yn dangos y cyfraniad hanfodol y mae cyllid SCWWDP yn ei wneud i gefnogi anghenion datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol ar draws Cymru. Mae’n amlygu’r cynnydd a wnaed a’r heriau sy’n parhau, yn enwedig o ran sgiliau digidol a chynllunio’r gweithlu. Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio â phartneriaid i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn a sicrhau bod y sector yn barod ar gyfer y dyfodol.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i dimau datblygu’r gweithlu a’r partneriaethau ar draws Cymru am eu cefnogaeth barhaus wrth gyflawni SCWWDP i helpu cryfhau’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.”