Jump to content
'Diolch am y gofal a'r cymorth ymroddedig a grymuso rydych chi'n eu darparu bob dydd i unigolion a theuluoedd ledled Cymru'
Newyddion

'Diolch am y gofal a'r cymorth ymroddedig a grymuso rydych chi'n eu darparu bob dydd i unigolion a theuluoedd ledled Cymru'

| Sarah McCarty, Prif Weithredwr

Rydyn ni'n anfon e-fwletin rheolaidd at bawb ar ein Cofrestr. Mae pob e-fwletin yn cynnwys neges gan ein Prif Weithredwr, Sarah McCarty.

Dyma neges Sarah o e-fwletin Rhagfyr 2025 yn ei gyfanrwydd.

Shwmae a chroeso i'n bwletin diweddaraf.

Wrth i ni agosáu at ddiwedd mis Rhagfyr, bydd llawer ohonoch chi’n cynllunio dathliadau gyda ffrindiau, cydweithwyr, teulu ac yn eich lleoliadau gyda'r unigolion rydych chi'n eu cefnogi.

Efallai eich bod chi'n nodi Hanukkah – Gŵyl y Goleuadau Iddewig; Kwanzaa – dathliad o ddiwylliant Affricanaidd ac Affricanaidd Americanaidd; Yule – heuldro'r gaeaf a welir mewn llawer o draddodiadau; Ōmisoka – dathliad Blwyddyn Newydd Japan; Dydd Santes Lucy – diwrnod gŵyl Sgandinafaidd; a Nadolig!

Mae’r adeg yma’n aml yn amser o gyffro a llawenydd, ond gall hefyd ddod â phwysau neu bryderon ychwanegol i rai teuluoedd ac aelodau'r tîm. Os oes angen cymorth arnoch chi, rydyn ni wedi casglu adnoddau i helpu gyda llesiant y gweithlu yma, a byddwn ni’n cynnal wythnos llesiant yn y flwyddyn newydd.

Rwy am ddiolch:

  • yr holl wasanaethau a enwebodd eu hunain neu eu cydweithwyr ar gyfer y Gwobrau – mae eich ceisiadau bellach gyda'n beirniaid, ac rydyn ni wedi cael ymateb anhygoel
  • pawb a gymerodd ran yn ein harolwg ‘Dweud eich dweud’ – mae eich adborth yn bwysig
  • pawb a ymunodd â ni i helpu i gyd-gynhyrchu neu wneud sylwadau ar ein hadnoddau a'n gwasanaethau, neu fynychu ein digwyddiadau neu gymunedau i gefnogi a rhannu eich ymarfer.

Yn bwysicaf oll, diolch mawr – diolch am y gofal a'r cymorth ymroddedig a grymuso rydych chi'n eu darparu bob dydd i unigolion a theuluoedd ledled Cymru. Gwnaeth adroddiad y Prif Arolygydd yn gynharach y flwyddyn hon tynnu sylw at y nifer uchel o wasanaethau da a rhagorol yng Nghymru, gan adlewyrchu eich ymrwymiad i ddarparu gofal o safon.

Rydyn ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl yn ymuno â'r sector i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a bydd eich ymroddiad parhaus yn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i wella a bod gwerthoedd yn cael eu byw yn ymarferol.

Oddi wrthym ni i gyd yn Gofal Cymdeithasol Cymru, edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn 2026.