Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, sydd wedi’i chyhoeddi’r wythnos diwethaf gan y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth.
Mae’r Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn creu system gofal fwy cyson a chynaliadwy sy’n rhoi pobl yn gyntaf.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr:
“Edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein gwaith gyda’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth a phartneriaid ar draws y sector i gyfrannu at y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.
“Mae’r rhaglen hon yn gam pwysig tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ymrwymo i chwarae ein rhan wrth gefnogi’r arweinyddiaeth a’r datblygiad sydd eu hangen i helpu i wireddu’r uchelgais honno.
“Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda phartneriaid i gefnogi’r gweithlu, cryfhau’r defnydd strategol o ddata a thystiolaeth gofal cymdeithasol, a chyfrannu ein harbenigedd i gefnogi system gofal cymdeithasol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
“Yn gynharach ym mis Hydref, fe wnaethon ni gyhoeddi canfyddiadau ein harolwg blynyddol o’r gweithlu a oedd yn tynnu sylw at ymdeimlad cryf o bwrpas ar draws gofal cymdeithasol. Mae’r gweithlu yn parhau i ddangos ei ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru.
“Ar yr un pryd, rydyn ni’n gwybod bod mwy i’w wneud i gefnogi, datblygu a chadw’r bobl dalentog sydd eu hangen ar y sector ar gyfer y dyfodol.
“Trwy ein partneriaethau sefydledig, strategaethau ar y cyd, rhaglenni gwaith, data a thystiolaeth, byddwn ni’n helpu i lunio a chefnogi datblygiad y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.”
Bydd y Rhaglen Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn canolbwyntio ar chwe sylfaen, sef:
- arweinyddiaeth ac atebolrwydd cenedlaethol clir
- cyllid teg a gofal dibynadwy
- gweithlu gwerthfawr a chynaliadwy
- data, digidol a chanlyniadau
- atal, diogelu a chymunedau cryf
- gofal cymdeithasol a chymorth di-dor.