Heddiw, ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Cynorthwywyr Personol (13 Tachwedd), rydyn ni’n dathlu'r cyfraniad hanfodol y mae Cynorthwywyr Personol yn ei wneud wrth helpu pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel.
Mae Cynorthwywyr Personol yn darparu gofal a chefnogaeth sy'n canolbwyntio ar y person i unigolion yn eu cartrefi a'u cymunedau. Maen nhw’n helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth a'u llesiant trwy eu cefnogi gyda thasgau bob dydd ac, mewn rhai achosion, darparu gofal personol.
Mae'r cymorth a ddarperir gan Gynorthwywyr Personol yn caniatáu i bobl fyw'r bywydau maen nhw'n eu dewis, cadw mewn cysylltiad â'u cymunedau a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysicaf iddyn nhw.
Wrth nodi'r diwrnod, dywedodd Delyth Jewell AS, y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod:
"Mae Diwrnod Cenedlaethol y Cynorthwywyr Personol yn rhoi cyfle i gydnabod a dathlu'r cyfraniad pwysig y mae Cynorthwywyr Personol yn ei wneud ledled Cymru. Trwy eu hymroddiad a'u cefnogaeth, mae Cynorthwywyr Personol yn helpu pobl i fyw'n annibynnol a chynnal mwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau.
"Hoffwn ddiolch i'r holl Gynorthwywyr Personol am y rôl werthfawr y maen nhw’n ei chwarae wrth gefnogi unigolion a chymunedau ledled Cymru."
Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:
"Diolch i Gynorthwywyr Personol ledled Cymru am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a'u hymroddiad i gefnogi pobl i fyw mor annibynnol a diogel â phosibl. Mae'r gefnogaeth maen nhw'n ei ddarparu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.
"Os ydych chi eisiau gwybod mwy am rôl Cynorthwyydd Personol, neu os ydych chi'n edrych i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth, mae gennym ystod o adnoddau i'ch cefnogi."