Heddiw rydyn ni’n ymuno â rheoleiddwyr y gweithlu ledled y DU i ddathlu 25 mlynedd o reoleiddio gwaith cymdeithasol.
Mae’r mis hwn yn nodi chwarter canrif ers i’n sefydliad rhagflaenol, Cyngor Gofal Cymru, gael ei sefydlu i sicrhau bod pawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn gweithio i’r un gwerthoedd a safonau.
Yn 2003, fe wnaethon ni agor ein Cofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol i weithwyr cymdeithasol, gyda myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn ymuno y flwyddyn ganlynol.
Ers hynny, mae’r Gofrestr wedi tyfu i gynnwys llawer mwy o grwpiau o weithwyr. Erbyn hyn mae mwy na 67,000 o’r amcangyfrif o 84,000 o bobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi’u cofrestru gyda ni.
Yn y 25 mlynedd ers i reoleiddio gwaith cymdeithasol ddechrau yng Nghymru, mae llawer wedi digwydd i gefnogi’r gweithlu.
Mae rhai o’r uchafbwyntiau niferus yn cynnwys:
- cyflwyno codau ymarfer proffesiynol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr
- cyflwyno fframweithiau ar gyfer sefydlu, cymwysterau, a chyflog a dilyniant
- sefydlu proses i bobl godi pryderon am weithwyr gofal cymdeithasol
- cyflwyno gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer
- cymeradwyo’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol
- cyflwyno gradd gwaith cymdeithasol newydd
- sefydlu cynllun bwrsariaethau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol
- lansio cymwysterau newydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol
- cyflwyno fframweithiau prentisiaethau
- datblygu strategaeth y gweithlu hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- cryfhau ein deallusrwydd o’r hyn mae’r gweithlu yn ei feddwl am weithio mewn gofal trwy ein harolwg blynyddol Dweud eich Dweud
- dathlu'r gweithlu a’r gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy fentrau fel y Gwobrau a’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg
- cefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol i ddeall yr hyn mae’r Deddfau Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn ei olygu iddyn nhw.
Dywedodd David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio: “Ers iddo ddechrau yn 2001, mae rheoleiddio gwaith cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn nid yn unig i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond hefyd i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a’u teuluoedd.
“Mae wedi gosod safonau ar gyfer ymddygiad, sefydlu a chymwysterau, gan sicrhau bod gan bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol y sgiliau, y wybodaeth a’r gwerthoedd cywir i ofalu am y bobl maen nhw’n eu cefnogi’n ddiogel, gan helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel.
“Lle nad yw gweithwyr yn gweithio yn unol â’n codau ymarfer proffesiynol, gallwn ni ymchwilio iddyn nhw, ac mewn rhai achosion, byddwn ni’n eu tynnu o’r Gofrestr fel na allan nhw weithio mewn rôl reoleiddiedig mwyach.
“Mae rheoleiddio hefyd wedi caniatáu i ni gefnogi’r gweithlu gyda llwybrau gyrfa, datblygiad proffesiynol parhaus, hyfforddiant ac adnoddau, ac i ddathlu eu llwyddiannau a rhannu ymarfer da.
“Mae wedi dod â thystiolaeth a data gwerthfawr i ni hefyd, yr ydyn ni’n ei rannu gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lywio cynllunio’r gweithlu a datblygu mwy o gefnogaeth i’r gweithlu.”
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Rwy’n falch o ymuno â rheoleiddwyr eraill y gweithlu yn y DU i ddathlu 25 mlynedd o reoleiddio gwaith cymdeithasol. Ar ôl gweithio yng Ngofal Cymdeithasol Cymru am fwy na 10 mlynedd, rwy bellach yn falch o arwain y sefydliad hwn, yn dilyn cyflawniadau rhagorol fy rhagflaenwyr.
“Wrth edrych yn ôl dros ein chwarter canrif cyntaf, mae’n rhyfeddol gweld faint rydyn ni wedi’i gyflawni i gadw pobl yn ddiogel ac i gefnogi proffesiynoldeb y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Ond mae mwy i’w wneud o hyd. Rydyn ni eisoes wedi dechrau meddwl am sut y gall gofal cymdeithasol edrych mewn 25 mlynedd fel rhan o’n gwaith i ddatblygu ein cynllun strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.
“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid, yng Nghymru a’r DU, i hyrwyddo ein gwaith hanfodol a sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol ledled y wlad yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi am y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud i ofalu am blant, oedolion a theuluoedd yn ein cymunedau.”