Jump to content
Cyfle cyffrous i drawsnewid diwylliant eich sefydliad
Newyddion

Cyfle cyffrous i drawsnewid diwylliant eich sefydliad

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi’n Unigolyn Cyfrifol neu’n rheolwr cofrestredig gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion?

Allech chi ddefnyddio cefnogaeth i ddatblygu a chryfhau diwylliant eich sefydliad?

Rydyn ni’n chwilio am bobl i gymryd rhan mewn gweithdai i’n helpu ni ddylunio ac archwilio ffyrdd ymarferol o adeiladu ar ddiwylliant eich sefydliad.

Trwy gymryd rhan, cewch gyfle i:

  • rannu gyda ni beth sy’n gweithio, a sut mae’n cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol
  • drafod pa amgylcheddau gall feithrin diwylliant cadarnhaol
  • drafod sut i fesur gwelliant 
  • fod yn rhan o’r gwaith o lunio diwylliannau gwaith cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Bydd hefyd yn cyfrif tuag at eich oriau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein cynnig yn adlewyrchu realiti’r sector. Felly, rydyn ni’n chwilio am gymysgedd amrywiol o ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i gymryd rhan yn y rhaglen, gan gynnwys:

  • gofal preswyl
  • gofal cartref
  • gwasanaethau byw â chymorth
  • lleoliadau gofal cymdeithasol eraill i oedolion.

Does dim ots os mai dim ond dechrau meithrin diwylliant cadarnhaol ydych chi, neu os ydych chi wedi bod yn gwneud hynny ers amser hir – gallwch ein helpu ni i wneud gwahaniaeth i ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau’r rhaglen i ddatblygu ein cynnig ymchwil, arloesi a gwella.

Dyddiadau

Byddwn ni’n cynnal y gweithdai ar sawl dyddiad, a dim ond unwaith sydd angen i chi fynychu.

Cewch gyfrannu trwy’r Gymraeg neu Saesneg.

Gweithdai Unigolion Cyfrifol 

Gweithdai rheolwr cofrestredig

Archebu eich lle

Cewch archebu eich lle ar Eventbrite:

Ynglŷn â diwylliannau cadarnhaol

Rydyn ni’n gweithio gyda Sefydliad Rayne i hyrwyddo a thyfu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol.

Gyda’u cefnogaeth nhw, rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol yn eu sefydliadau.

I gael rhagor o wybodaeth am ein canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol, ewch i wefan y Grŵp Gwybodaeth.