Jump to content
Gweithdai ar gyfer rheolwyr cofrestredig: datblygu diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol
Digwyddiad

Gweithdai ar gyfer rheolwyr cofrestredig: datblygu diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol

Dyddiad
26 Tachwedd 2026 i 3 Rhagfyr 2026, 2pm i 4pm
Lleoliad
Ar-lein (Microsoft Teams)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Mae'r gweithdai hyn ar gyfer rheolwyr cofrestredig o gymysgedd o ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru, gan gynnwys: 

  • gofal preswyl 
  • gofal cartref 
  • gwasanaethau byw â chymorth unrhyw leoliadau 
  • gofal cymdeithasol eraill i oedolion.

Cynnwys y sesiwn

Trwy gymryd rhan, cewch gyfle i:

  • rannu gyda ni beth sy’n gweithio, a sut mae’n cyfrannu at ddiwylliant cadarnhaol
  • drafod pa amgylcheddau gall feithrin diwylliant cadarnhaol
  • drafod sut i fesur gwelliant 
  • fod yn rhan o’r gwaith o lunio diwylliannau gwaith cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau’r rhaglen i ddatblygu ein cynnig ymchwil, arloesi a gwella.

Dyddiadau

Byddwn ni’n cynnal y gweithdai ar sawl dyddiad, a dim ond unwaith sydd angen i chi fynychu.

Cewch gyfrannu trwy’r Gymraeg neu Saesneg.

  • 26 Tachwedd 2pm i 4pm
  • 3 Rhagfyr 9.30am i 11.30am

Ynglŷn â diwylliannau cadarnhaol

Rydyn ni’n gweithio gyda Sefydliad Rayne i hyrwyddo a thyfu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol.

Gyda’u cefnogaeth nhw, rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol yn eu sefydliadau.

I gael rhagor o wybodaeth am ein canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol, ewch i wefan y Grŵp Gwybodaeth.