Jump to content
Chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg
Newyddion

Chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r enwebiadau nawr ar agor ar gyfer y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026.

Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr yn agored i unrhyw weithwyr gofal cyflogedig sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, rydyn ni’n gwahodd aelodau o'r cyhoedd, cyflogwyr a phobl sy’n gweithio ym maes gofal i enwebu gweithiwr ar gyfer y wobr hon.

Does dim angen i’r gweithiwr siarad Cymraeg yn rhugl, cyn belled â’i fod yn defnyddio'r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth – mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell!

Byddwn ni’n gwahodd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol, yn ogystal â’u henwebwyr, i seremoni wobrwyo yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, Sir Benfro, ym mis Awst.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth o rywun a all cyfathrebu yn eich iaith yn rhan bwysig o gael gofal o ansawdd da, sy'n llawn urddas.  

“Nod y wobr hon yw dathlu’r gweithwyr rhagorol sy’n darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg – ac i ysbrydoli eraill i ddechrau dysgu, cynyddu eu hyder a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gwaith. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i weld gwerth eu sgiliau iaith wrth ystyried gyrfa werth chweil mewn gofal.”

Cafodd Myfanwy Harman, ein henillydd llynedd, ei dathlu am ei gwaith yn darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant lleol ym Merthyr Tudful.

Darllenwch fwy am Myfanwy a’i gwaith yn darparu safon uchel o ofal wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn ei chymuned. Efallai cewch eich ysbrydoli i enwebu rhywun...

Os hoffech chi enwebu gweithiwr, bydd angen i chi lenwi ffurflen enwebu, a dweud pam mae’r gweithiwr yn haeddu cael ei gydnabod â’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i fywydau’r bobl mae’n eu cefnogi drwy ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod y gweithiwr yn fodlon cael ei enwebu cyn anfon eich cais atom ni. Oherwydd os caiff ei ddewis fel un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, byddwn ni’n defnyddio ei stori i roi cyhoeddusrwydd i’r wobr a hyrwyddo’r pwysigrwydd o ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 5pm ar 22 Mehefin.