Heddiw, cafodd Myfanwy Harman, rheolwr Cylch Meithrin y Gurnos ym Merthyr Tudful, ei henwi’n enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2025 mewn digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Mae'r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr cyflogedig sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Does dim angen i’r gweithiwr siarad Cymraeg yn rhugl, cyn belled â’i fod yn defnyddio'r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth – mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell!
Eleni, dewiswyd chwech unigolyn ar gyfer rownd derfynol y wobr gan banel o feirniaid arbenigol a chafodd yr enillydd ei dewis drwy bleidlais gyhoeddus, a welodd mwy na 4,900 o bobl yn bleidleisio.
Cafodd Myfanwy ei henwebu gan Megan Morris, sydd wedi gweithio gyda Myfanwy drwy ei rôl yng Nghlybiau Plant Cymru Kids' Clubs.
Cafodd Myfanwy ei henwebu am ei gwaith yn darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant lleol ym Merthyr Tudful.
Mae Cylch Meithrin y Gurnos yn cynnig gofal plant i blant hyd at 12 oed ac yn rhoi cyfle pwysig i blant lleol ddefnyddio a chlywed y Gymraeg y tu allan i'r ysgol. O dan ofal Myfanwy, mae'r Gymraeg yn rhan o brofiad dyddiol pob plentyn.
Cafodd Myfanwy ei chyhoeddi yr enillydd mewn seremoni wobrwyo yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam gan Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sarah McCarty.
Meddai Sarah: “Llongyfarchiadau mawr i Myfanwy a'r holl weithwyr a dderbyniodd gymeradwyaeth uchel!
“Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth gan rywun sy'n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol, o ansawdd.
“Mae'r wobr eleni wedi rhoi enghreifftiau gwych i ni o weithwyr ysbrydoledig ac ymroddedig ar draws y sector sy'n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg a dangos yr effaith mae hyn yn cael ar fywydau pobl.
"Rydyn ni’n annog pob gweithiwr gofal i ddefnyddio’i sgiliau Cymraeg yn y gweithle neu i ddod yn ddysgwyr Cymraeg. Mae gennym ni lawer o adnoddau i'ch helpu i ddatblygu a gwella eich Cymraeg er mwyn cefnogi darpariaeth gwasanaethau yn iaith ddewisol pobl.”