Jump to content
Chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg
Newyddion

Chwilio am weithwyr sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r enwebiadau nawr ar agor ar gyfer y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2025.

Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr yn agored i unrhyw weithwyr gofal cyflogedig sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, rydyn ni’n gwahodd aelodau o'r cyhoedd, cyflogwyr a phobl sy’n gweithio ym maes gofal i enwebu gweithiwr ar gyfer y wobr hon.

Does dim angen i’r gweithiwr siarad Cymraeg yn rhugl, cyn belled â’i fod yn defnyddio'r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth – mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell!

Byddwn ni’n gwahodd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol, yn ogystal â’u henwebwyr, i seremoni wobrwyo yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar 7 Awst.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth o rywun a all cyfathrebu yn eich iaith yn rhan bwysig o gael gofal o ansawdd da, sy'n llawn urddas.

“Nod y wobr hon yw dathlu’r gweithwyr rhagorol sy’n darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg – ac i ysbrydoli eraill i ddechrau dysgu, cynyddu eu hyder a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gwaith. Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i weld gwerth eu sgiliau iaith wrth ystyried gyrfa werth chweil mewn gofal.”

Cafodd Elain Fflur Morris, ein henillydd llynedd, ei dathlu am ei gwaith yn cefnogi preswylwyr Cartref Bryn yr Eglwys – 75 y cant ohonyn nhw’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf – i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Darllenwch fwy am Elain a’i gwaith yn darparu safon uchel o ofal wrth hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn ei chymuned. Efallai cewch eich ysbrydoli i enwebu rhywun...

Os hoffech chi enwebu gweithiwr, bydd angen i chi lenwi ffurflen enwebu, a dweud pam mae’r gweithiwr yn haeddu cael ei gydnabod â’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i fywydau’r bobl mae’n eu cefnogi drwy ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd angen i chi wneud yn siŵr bod y gweithiwr yn fodlon cael ei enwebu cyn anfon eich cais atom ni. Oherwydd os caiff ei ddewis fel un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, byddwn ni’n defnyddio ei stori i roi cyhoeddusrwydd i’r wobr a hyrwyddo’r pwysigrwydd o ddarparu gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 27 Mehefin 2025.