Jump to content
Gweithiwr gofal wedi ei henwi’n enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024
Newyddion

Gweithiwr gofal wedi ei henwi’n enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Heddiw, cafodd Elain Fflur Morris, uwch weithiwr gofal yng Nghartref Bryn yr Eglwys yng Nghonwy, ei henwi’n enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024 mewn digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Mae'r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr cyflogedig sydd wedi gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Does dim angen i’r gweithiwr siarad Cymraeg yn rhugl, cyn belled â’i fod yn defnyddio'r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth – mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell!

Eleni, dewiswyd pum unigolyn ar gyfer rownd derfynol y wobr gan banel o feirniaid arbenigol a chafodd yr enillydd ei dewis drwy bleidlais gyhoeddus, a welodd mwy na 5,200 o bobl yn bleidleisio.

Meryl Welsby, Rheolwr Nyrsio Cofrestredig Cartref Bryn yr Eglwys, a enwebodd Elain ar gyfer y wobr.

Cafodd Elain ei henwebu am ei gwaith yn cefnogi preswylwyr Cartref Bryn yr Eglwys – 75 y cant ohonyn nhw’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf – i fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Elain yn aml yn gweithredu fel cyfieithydd i weithwyr gofal iechyd a phreswylwyr a’u teuluoedd, ac mae ei gweithgareddau hamdden a diwylliannol Cymraeg dyddiol poblogaidd i breswylwyr hefyd wedi helpu i leihau unigrwydd a phryder.

Cafodd Elain ei chyhoeddi yr enillydd mewn digwyddiad amser cinio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd gan ein Prif Weithredwr Sarah McCarty.

Meddai Sarah : “Llongyfarchiadau mawr i Elain a'r holl weithwyr a enillodd gymeradwyaeth uchel.

“Mae gallu derbyn gofal a chymorth gan rywun sy'n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol, o ansawdd uchel.

“Mae'r wobr eleni wedi rhoi enghreifftiau gwych i ni o weithwyr ysbrydoledig ac ymroddedig sy'n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r effaith bositif mae hyn yn cael ar fywydau pobl.

"Rydyn ni’n annog pob gweithiwr gofal i ddefnyddio’i sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae gennym lawer o adnoddau i'ch helpu i ddatblygu a gwella eich Cymraeg er mwyn cefnogi darpariaeth gwasanaethau gofal yn iaith ddewisol unigolion.”