Jump to content
Casgliad data gweithlu cyfun newydd yn agor ym mis Ebrill – a yw'ch sefydliad chi'n barod?
Newyddion

Casgliad data gweithlu cyfun newydd yn agor ym mis Ebrill – a yw'ch sefydliad chi'n barod?

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn lansio casgliad data gweithlu cyfun newydd ar 1 Ebrill, gan ei gwneud yn haws nag erioed i ddarparwyr gyflwyno eu data.

Rydyn ni ac AGC wedi dod â’n dau gasgliad data blynyddol at ei gilydd i greu un broses gyfun, sy’n golygu mai dim ond unwaith y bydd angen i ddarparwyr gofal cymdeithasol gasglu a chyflwyno eu data.

Yn y gorffennol, roedd gofyn i ddarparwyr gyflwyno dau set o ddata bob blwyddyn – un i AGC drwy’r datganiad blynyddol, ac un i ni drwy’n casgliad data gweithlu blynyddol.

O hyn ymlaen, dim ond drwy broses datganiad blynyddol AGC y bydd data yn cael ei gasglu.

Mae'r data sy'n cael ei gasglu yn cynnwys gwybodaeth am niferoedd y gweithlu, nodweddion ac oriau gwaith.

Ni fydd y casgliad cyfun newydd yn gofyn am unrhyw wybodaeth nad yw eisoes yn cael ei chasglu fel rhan o’r ddau gasgliad presennol.

Pam mae’r data rydyn ni'n ei gasglu yn bwysig

Byddwn ni'n parhau i gynhyrchu adroddiad bob blwyddyn sy’n darparu darlun o faint a nodweddion y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dyma’r unig ddata sy'n cael ei gasglu am y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan yng Nghymru. Oherwydd hyn, mae gan yr adroddiad amrywiaeth o ddefnyddwyr, gan gynnwys:

  • lywodraethau Cymru a’r DU
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS Cymru) ac awdurdodau lleol
  • rheoleiddwyr fel Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru
  • darparwyr gofal
  • ymchwilwyr
  • y cyfryngau
  • aelodau o’r cyhoedd.

Mae sicrhau bod gennym ddata o’r ansawdd uchaf i ddeall y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn hynod bwysig. Heb ddata o ansawdd da, ni allwn ddeall siâp a maint gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gywir.

Mae hefyd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o ble mae’r galw am ofal, ym mha fathau o ddarpariaeth, ac i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Mae data o ansawdd da yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwell, yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae hyn yn golygu y gallwn helpu i ddarparu gofal a chymorth gwell i bobl yng Nghymru ac annog cefnogaeth well i’r gweithwyr sy’n ei ddarparu.

Bydd y casgliad cyfun hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad i Fframwaith Perfformiad a Gwella gofal cymdeithasol yng Nghymru, drwy symleiddio’r gwaith o gasglu data o ansawdd uchel.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Bydd y casgliad cyfun newydd yn cael ei gynnal drwy broses datganiad blynyddol AGC. Mae hynny’n golygu y bydd angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch i gyflwyno eich data.

Os mai chi yw’r person sy’n casglu’r data ar ran eich sefydliad neu’ch lleoliad, efallai y bydd AGC yn eich cyfeirio atoch fel ‘swyddog sefydliadol’, neu efallai y bydd angen i chi gael eich sefydlu fel ‘cynorthwyydd ar-lein’. Mae gwybodaeth am sut y gall Unigolion Cyfrifol a swyddogion sefydliadol greu a dirprwyo i gynorthwywyr ar-lein ar wefan AGC.

Dylai Unigolion Cyfrifol neu swyddogion sefydliadol fewngofnodi i’w cyfrif Ar-lein AGC cyn 1 Ebrill i sicrhau bod manylion eu gwasanaeth yn gyfredol, neu greu cyfrif os oes angen. Os ydych yn ddarparwr gofal cymdeithasol nad yw wedi cofrestru ag AGC eto, cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru i sicrhau y gallwch barhau i ddarparu eich data gwerthfawr.

Mae manylion llawn ar sut i gyflwyno data drwy’r broses dataganiad blynyddol ar gael ar wefan AGC.

Bydd y cyfnod ar gyfer cwblhau'r datganiad blynyddol yn cau ar 26 Mai.

Angen mwy o wybodaeth?

Os hoffech wybod mwy am y casgliad data cyfun newydd, ewch i’n tudalen adroddiad blynyddol y gweithlu neu cysylltwch â data@gofalcymdeithasol.cymru.