Jump to content
Blaenoriaethu llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar ym mis Ionawr
Newyddion

Blaenoriaethu llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar ym mis Ionawr

| Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr

Mae blwyddyn newydd yn rhoi amser i ni oedi ac edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu, ac i osod nodau ar gyfer y flwyddyn i ddod – sy’n aml yn gwneud i ni edrych o’r newydd ar iechyd a llesiant.

Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, un o’n blaenoriaethau ni fis Ionawr yw llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar.

Yn ddiweddarach y mis hwn, byddwn ni'n cynnal Wythnos Llesiant – ein cyfres flynyddol o ddigwyddiadau sy’n rhoi cyfle i weithwyr gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar ddod at ei gilydd i ddysgu, cysylltu a rhannu.

Drwy gydol yr wythnos, bydd gwesteion arbennig yn ymuno â ni i rannu gwybodaeth am y pethau y gall gweithwyr eu gwneud i gefnogi eu llesiant nhw a'r bobl o'u cwmpas.

Y llynedd, ymunodd mwy na 300 o bobl â ni ar draws digwyddiadau'r wythnos ac rydyn ni'n gobeithio y bydd eleni yr un mor llwyddiannus.

Rydyn ni’n gwybod o ganlyniadau ein harolwg ‘Dweud eich dweud’ blynyddol bod llesiant y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae lefelau gorbryder yn dal yn uchel.

Yn 2024, canfu’r arolwg fod llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol yn is na chyfartaledd y DU. Ond yn 2025, gwelwyd cynnydd yn eu bodlonrwydd ar fywyd, eu hapusrwydd a'u teimladau bod bywyd yn werth chweil, ac mae eu llesiant bellach yn uwch na chyfartaledd y DU.

Dywedodd y gweithlu wrthym ni fod eu morâl yn dda a'u bod yn teimlo bod y bobl maen nhw’n eu cefnogi, eu cydweithwyr a’u rheolwyr yn eu gwerthfawrogi.

Ond fe ddywedon nhw wrthym ni hefyd fod eu lefelau gorbryder yn uwch nag oedden nhw yn 2024, ac yn uwch na chyfartaledd y DU.

Mae’r arolwg yn gofyn am farn gweithwyr gofal cymdeithasol am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, cyflog, telerau ac amodau, a sut maen nhw’n teimlo am weithio yn y sector.

Mae’n rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, ac fe gymerodd mwy na 5,700 o bobl ran yn yr arolwg yn 2025.

Byddwn ni'n lansio arolwg ‘Dweud eich dweud’ 2026 yn ystod Wythnos Llesiant, lle byddwn ni'n gofyn i weithwyr rannu eu barn unwaith eto.

Rydyn ni’n defnyddio canfyddiadau’r arolwg i lywio’r cymorth a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig, ac i ddylanwadu ar waith sefydliadau partner er mwyn sicrhau bod lleisiau gweithwyr yn cael eu clywed.

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, cadwch lygad ar ein gwefan dros yr wythnosau nesaf i gael gwybodaeth am sut gallwch chi gymryd rhan yn yr arolwg eleni.

Os ydych chi eisiau ystyried gyrfa werth chweil, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant ar wefan Gofalwn Cymru.