Dros y misoedd nesaf byddwn ni’n gweithio gyda Hyb ACE Cymru i adolygu ac addasu ein safonau, fframwaith ac hyfforddiant diogelu, er mwyn sicrhau eu bod yn ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs).
Mae'r adolygiad yn rhan o'n hymrwymiad i ddarparu adnoddau diogelu sy'n seiliedig ar drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan helpu pobl i deimlo'n fwy hyderus yn eu cyfrifoldebau diogelu a chefnogi ymarfer sy'n seiliedig ar drawma ar draws y sector.
Ni fydd y deunyddiau diogelu presennol yn cael eu hailysgrifennu'n llwyr. Yn lle hynny, byddant yn cael eu diweddaru a'u mireinio i adlewyrchu dull ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Sut bydd yr adolygiad yn digwydd?
Bydd yr adolygiad yn cynnwys proses ymgynghori, gyda chefnogaeth grŵp cyfeirio arbenigol a fydd yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu'r deunyddiau diwygiedig. Bydd y grŵp yn sicrhau bod y safonau, y fframwaith a'r hyfforddiant diogelu yn adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf a'r arfer gorau mewn dulliau sy'n seiliedig ar drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu hadolygu a'u cymeradwyo gan fwrdd goruchwylio diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd Hyb ACE Cymru yn cefnogi'r broses hon drwy feincnodi'r safonau, y fframweithiau a'r hyfforddiant presennol yn erbyn arferion da cydnabyddedig, gan ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Sefydliadau Sy’n Ystyriol o Drawma ac ACE (TrACE) a Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma (2022) i ategu'r gwaith.
Bydd Hyb ACE Cymru hefyd yn darparu adnoddau ategol a chynnig hyfforddiant ac adnoddau wedi'u hymgorffori.
Bydd yr adolygiad hefyd yn canolbwyntio'n gryf ar godi ymwybyddiaeth o gam-drin rhywiol yn ystod plentyndod. Bydd rhanddeiliaid o'r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn ymuno â'r grŵp cyfeirio arbenigol a bydd yr adolygiad yn cynnwys dolenni i adnoddau'r Ganolfan. Gall yr adnoddau hyn gefnogi staff i nodi, ymateb ac atal cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod, yn ogystal â chefnogi'r rhai sy’n cael eu heffeithio ganddo.
Bydd y deunyddiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru ddiwedd 2027.