Jump to content
Bywgraffiadau siaradwyr Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2026

Darllenwch y bywgraffiadau isod i wybod mwy am y siaradwyr sy'n arwain ein sesiynau yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2026.

John Deegan, Gweithiwr Cymdeithasol ac AMHP

Daeth John i faes gwaith cymdeithasol fel myfyriwr aeddfed ar ôl gweithio fel töwr ar safleoedd adeiladu. Gyrrodd dacsi i dalu am ei hyfforddiant. Cymhwysodd fel gweithiwr cymdeithasol ac roedd eisiau dysgu mwy am weithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl, gan benderfynu hyfforddi fel AMHP yn ddiweddarach. Mae wedi bod yn AMHP ers 13 mlynedd ac mae'n teimlo bod y rôl wedi bod yn fraint, ond hefyd yn straen ar adegau pan fu angen iddo ddweud ei ddweud a herio eraill er mwyn cefnogi ac amddiffyn y bobl y mae'n eu cynorthwyo.

Alexandra Beckham, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Dr Katharine Daneski, Carers Consultancy Cymru

Mae Katharine yn darparu gofal a chymorth i'w merch a'i hwyrion a'i hwyresau, ac roedd yn ofalwr llawn amser i'w thad tan yn ddiweddar. Fel nyrs ac ymwelydd iechyd, cafodd yrfa fel clinigwr ac fe weithiodd swyddi strategol ym maes iechyd y cyhoedd cyn dod yn ymchwilydd ac yn ddarlithydd yng Ngholeg y Brenin Llundain, Prifysgol Abertawe a'r Brifysgol Agored.

Jan Foy

Mae Jan yn ofalwr gwirfoddol i ffrind hynod ddeallus sydd ag awtistiaeth ac anhwylder ôl-drawmatig cymhleth. Yn gyn-fenyw fusnes, mae Jan hefyd wedi rhedeg canolfan galw heibio iechyd meddwl. Mae hi wedi llwyddo i arwain cwynion iechyd a gofal cymdeithasol uchel eu proffil i'r ombwdsmyn, gan ailddiffinio hawliau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, gan gynnwys yr hawl i herio canfyddiadau ymchwiliad diogelu. Bu'n ymgynghorydd i Arolygiaeth Gofal Cymru am sawl blwyddyn, gan adolygu deddfwriaeth a'i gweithrediad. Mae Jan yn credu, os ydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, ac yn parchu cryfderau a galluoedd ein gilydd, gallwn gyflawni llawer mwy a gyda llai o straen i bawb.

Nick Andrews, Swyddog Datblygu Ymchwil ac Ymarfer, Prifysgol Abertawe

Mae Nick yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig ac yn Swyddog Datblygu Ymchwil ac Ymarfer ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n cydlynu'r rhaglen Datblygu Ymarfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth. Mae'r gwaith hwn yn ffocysu ar ddull cyd-gynhyrchu o ddefnyddio tystiolaeth wrth ddysgu a datblygu. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn ymarfer ac yn cynllunio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gall wneud cysylltiadau rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer, gyda rhwydwaith ledled Cymru a'r DU. Mae'n frwd dros gefnogi newid o ymarfer sy'n seiliedig ar brosesau i ymarfer sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd.

Emma Miller, Uwch Gydymaith Ymchwil mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol, Prifysgol Strathclyde

Mae Emma yn Uwch Gydymaith Ymchwil mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Strathclyde yn Glasgow. Mae ei gwaith yn ffocysu ar ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd, a chanlyniadau personol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr di-dâl. Mae Emma yn gweithio'n agos gydag ymarferwyr, sefydliadau a phobl sydd â phrofiad bywyd ledled Cymru a'r Alban i gefnogi ymarfer ystyrlon a dyngarol o fewn cyfyngiadau'r byd go iawn. Mae Emma yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Dr Diane Seddon, Cyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor

Diane yw Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor. Mae hi'n ymchwilydd gofal cymdeithasol sefydledig, sy'n arwain gwaith sydd wedi cefnogi newid mewn cymorth gofal cymdeithasol cenedlaethol (seibiant byr) i ofalwyr. Mae gwaith Diane yn cynrychioli ymrwymiad hirsefydlog i waith ymchwil cydweithredol i wella canlyniadau gofal cymdeithasol i oedolion hŷn a’u gofalwyr. Rhan allweddol o waith Diane yw cynnwys ac ymgysylltu’n weithredol â phobl sydd â phrofiad bywyd.

Cerian Twinberrow - Rheolwr Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Cerian yn Rheolwr Gwaith Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ei rôl yn ffocysu ar gefnogi datblygiad proffesiynol ac amodau gwaith gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cerian wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers dros 30 o flynyddoedd. Cymhwysodd fel Gweithiwr Cymdeithasol yn 2007 gyda gradd Meistr o Brifysgol Caerdydd, ac mae wedi gweithio yn y trydydd sector a gwasanaethau gwaith cymdeithasol statudol i oedolion yng Nghymru a Lloegr. Mae hi’n weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bro Morgannwg

Lance yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg. Mae'n arwain gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant ledled y sir. Gyda phrofiad helaeth o arwain yn y sector cyhoeddus, mae Lance wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu dulliau mwy cydgysylltiedig o ymdrin â gofal, gan ffocysu ar wella canlyniadau i unigolion a chymunedau.

Fel Cyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro, mae Lance yn helpu i oruchwylio trefniadau diogelu amlasiantaeth ac yn sicrhau bod partneriaethau effeithiol ar waith i ddiogelu a chefnogi poblogaethau agored i niwed. Mae ei arweinyddiaeth wedi bod yn ganolog i ddatblygu mentrau strategol sy'n cryfhau'r gwaith o ddarparu gwasanaethau ac yn hyrwyddo cydweithio ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ogystal, arweiniodd Lance y gwaith o ddatblygu a chyflwyno Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cyflwynodd y rôl eang hon y gweithdrefnau mewn fformat symudol a hygyrch i unrhyw un eu defnyddio yng Nghymru, ac mae'n sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol. Yn 2024 a 2025, Lance oedd Cadeirydd ADSSC, y sefydliad arweinyddiaeth cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Nick Howard, Ditectif Arolygydd, Adran ymchwilio i gamfanteisio, atal pobl rhag mynd ar goll, diogelu ac amddiffyn y cyhoedd

Ymunodd Nick â Heddlu Gwent yn 2004 a chyn bo hir symudodd i rolau Ditectif, gan gynnwys rolau yn CID, yr Adran Ymchwilio ac Amddiffyn Plant, a Throseddau Treisgar Difrifol. Ar ôl trosglwyddo i Heddlu De Cymru yn 2017, symudodd ymlaen drwy gyfleoedd am ddyrchafiad ac mae wedi gweithio ym maes Ymchwiliadau, Gwasanaethau Corfforaethol a Diogelu hyd at reng y Prif Arolygydd. Mae ganddo brofiad sylweddol fel ymarferydd, goruchwylydd ac ar lefel strategol, gan weithio gyda phartneriaid i ddiogelu plant ac oedolion sydd naill ai angen help neu gael eu diogelu. Cyn hynny, roedd gan Nick gyfrifoldeb strategol dros Amddiffyn Plant a phobl sydd ar goll yn Heddlu De Cymru. Roedd hyn yn cynnwys ysgrifennu polisïau'r heddlu a gwella gweithdrefnau ac arferion, yn ogystal â sicrhau bod timau rheng flaen yn deall ac yn defnyddio'r newidiadau hyn.

Mae Nick hefyd wedi gweithio ar draws tair ardal Bwrdd Diogelu Rhanbarthol gwahanol ym maes diogelu dros y blynyddoedd, ac mae’n eiriolwr dros drefniadau partneriaeth ‘wyneb yn wyneb’ lle bynnag y bo modd.

Louise Mann

Esyllt Crozier, Rheolwr Gwaith Cymdeithasol a Diogelu, Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Esyllt wedi gweithio yn y sector gofal cymdeithasol ers deunaw mlynedd, gan gynnwys un mlynedd ar bymtheg fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig. Mae hi wedi dal amrywiaeth o swyddi o fewn Gwasanaethau Plant mewn awdurdodau lleol ac mae hi bellach yn gweithio fel Rheolwr Gwaith Cymdeithasol a Diogelu yn Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Esyllt yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid a'r sector ledled Cymru, sy'n cael ei adlewyrchu wrth lansio a gweithredu'r Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru.

Mae Esyllt yn frwd dros waith amlasiantaeth ym maes diogelu ac mae'n credu bod gweithio gyda phobl, sef yr arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, hefyd yn allweddol i gyflawni'r canlyniadau gorau.

Rhoda Emlyn Jones, OBE

Mae Rhoda wedi gweithio yn y sectorau gwirfoddol a statudol ers y 1970au, gan ddatblygu gwasanaethau oedolion a phlant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Cafodd ei henwi'n Gymraes y Flwyddyn yn 2007 am ei chyfraniadau arloesol at ymarfer effeithiol, a chafodd OBE yn 2008 am ei gwaith gyda theuluoedd difreintiedig. Mae hi bellach yn gweithio'n annibynnol ledled y DU, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r gweithlu'n strategol a dulliau perthynol sy'n seiliedig ar gryfderau.

Mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o wreiddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yng Nghymru ers dros 15 mlynedd.

Laurel Morgan, Rheolwr Tîm Dros Dro y Gwasanaeth Therapiwtig, Cyngor Sir Ddinbych

Mae Laurel yn rheoli tîm sy'n darparu cymorth integredig i deuluoedd ac ymyriadau ar gyrion gofal. Bu’n gweithio fel gweithiwr cymdeithasol am 15 mlynedd ar draws gwasanaethau plant ac iechyd meddwl. Mae hi wedi arwain y gwaith o weithredu dulliau cyfathrebu cydweithredol sy’n seiliedig ar gryfderau mewn gwasanaethau plant ac oedolion. Mae ei hymarfer wedi’i wreiddio mewn creadigrwydd, perthnasoedd a sicrhau bod lleisiau teuluoedd yn parhau i fod wrth galon y broses o wneud penderfyniadau

Rachel Hopkins

Mae Rachel yn Weithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol yn Nhîm Gwaith Cymdeithasol Ysbyty Caerdydd. Mae hi'n gweithio mewn lleoliadau ysbyty cyflym ac yn aml cymhleth, gan sicrhau bod profiadau pobl a gofalwyr yn llywio cynllunio a gwneud penderfyniadau. Mae Rachel yn fentor Cyfathrebu Cydweithredol profiadol ac Addysgwr Ymarfer, sy'n cefnogi ymarfer myfyriol, sy'n seiliedig ar gryfderau ar draws ei thimau, yn enwedig pan fo pwysau'n uchel. Mae hi'n angerddol am gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso wrth iddyn nhw ddechrau eu hymarfer mewn lleoliadau ysbyty.

Becky Evans, Prif Swyddog Galluogi, Credu

Becky Evans yw Prif Swyddog Galluogi Credu. Mae hi wedi bod yn eiriolwr dros ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ers amser. Mae hi wedi gweithio ar draws gofal cymdeithasol, addysg, gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol, wedi'i harwain bob amser gan y gred bod gan bawb werth a chryfderau y dylid eu cydnabod a'u meithrin.

Mae arweinyddiaeth Becky wedi'i llunio gan wrando, chwilfrydedd ac ymrwymiad i gysylltiad dynol ystyrlon. Mae hi wedi gweld sut y gall yr egwyddorion hyn helpu pobl i dyfu, a grymuso gofalwyr, pobl ifanc, timau a chymunedau i ddod o hyd i'w hatebion eu hunain.

Mae Becky wedi ymrwymo i sicrhau bod y lleisiau pwysicaf yn cael eu clywed, a chreu mannau lle mae straeon yn arwain at newid. Mae hi'n hyrwyddo diwylliant o garedigrwydd, myfyrio a gweithredu, ac yn parhau i arwain Credu i adeiladu cymunedau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u cefnogi.

Jay Goulding, Rheolwr Practis Seiliedig ar Gryfderau, Gofal Cymdeithasol Cymru

Jay yw'r Rheolwr Ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n arwain gwaith cenedlaethol i ymgorffori a thyfu ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd. Yn ei rôl, mae Jay yn cefnogi newid diwylliant, datblygiad ymarferwyr ac ymarfer perthynol, gwerthfawrog. Mae'n addysgu ac yn cynnal gweithdai yn rheolaidd am sgyrsiau sy'n seiliedig ar gryfderau, ymarfer myfyriol a dulliau "beth sy'n bwysig", gan gynnwys ar raglenni ôl-raddedig. Mae ei waith yn canolbwyntio ar rymuso ymarferwyr, annog chwilfrydedd a chryfhau'r cysylltiad dynol wrth wraidd gwaith cymdeithasol.

Eve Piffaretti, Blake Morgan LLP

Mae Eve yn Bartner yn Blake Morgan LLP ac yn arwain swyddfa'r cwmni yng Nghymru. Mae hi'n cynghori gweithwyr cymdeithasol yn rheolaidd ar lawer o faterion cyfreithiol, o gael y gefnogaeth iawn i unigolion agored i niwed i ddelio â dyletswyddau statudol a chyfrifoldebau diogelu. Mae hi hefyd yn cynghori rheoleiddwyr iechyd a gofal proffesiynol ar brosesau addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys drafftio canllawiau cyfryngau cymdeithasol a rhyddid mynegiant ar gyfer unigolion cofrestredig.

Mae Eve yn Olygydd Cynorthwyol Gwyddoniadur y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfraith Gofal Plant a Llawlyfr y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae hi hefyd yn ddarlithydd gwadd rheolaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Louise Bretland-Treharne

Liz Parker, Gofal Cymdeithasol Cymru

Liz yw arweinydd datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol yn Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Liz hefyd wedi gweithio ar gylch gwaith y Gymraeg yn y sefydliad am y saith mlynedd diwethaf. Mae ganddi ddiddordeb mewn diwylliant a sut mae’n cael ei adlewyrchu mewn ymarfer.

Akinsanmi Apara

Rhian Parry

Mae Rhian ar ei lleoliad olaf, mewn tîm gofal plant tymor hir, ac yn disgwyl cwblhau ei gradd Meistr mewn gwaith cymdeithasol eleni. Hyfforddodd fel cerddor clasurol ac fe benderfynodd ddilyn gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol ar ôl treulio amser yn gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, lle datblygodd angerdd dros yr angen i eirioli dros blant ac oedolion ag anableddau.

Mae’n gobeithio gweithio mewn tîm sy’n cefnogi pobl ifanc ag anableddau, er mwyn dilyn yr angerdd hwn a chyfrannu at wella canlyniadau i bobl ifanc ag anableddau a’u teuluoedd

Eleanor Shaw

Mair Davies

Mae Mair yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol yn eu tair blynedd gyntaf mewn ymarfer fel cynghorydd dysgu a datblygu. Mae hi hefyd yn rhedeg y grŵp ymarfer a gyfoethogir gan dystiolaeth yn Sir Gaerfyrddin. Mae gan Mair ddiddordeb mewn sut mae creadigrwydd yn cefnogi llesiant yn ymarferol a sut gall gweithwyr cymdeithasol o wahanol ddisgyblaethau weithio gyda'i gilydd i ddatblygu eu hymarfer drwy wrando ar leisiau profiadol.

Siobhan Maclean

Mae Siobhan wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers 35 mlynedd, a daeth yn addysgwr ymarfer ym 1995. Mae Siobhan wedi gweithio'n annibynnol ers blynyddoedd lawer, gan ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith, gan gynnwys hyfforddiant, creu adnoddau dysgu i ymarfer a gwaith ymgynghori.

Yn 2004, daeth Siobhan yn Ysgrifennydd Ffederasiwn Rhyngwladol y Gweithwyr Cymdeithasol, gan ddal y swydd hon am wyth mlynedd.

Mae Siobhan wedi ysgrifennu'n helaeth, yn bennaf ar ddamcaniaethau gwaith cymdeithasol a myfyrio beirniadol, ac mae wedi ymrwymo i wneud gwybodaeth yn glir ac yn hygyrch i ymarferwyr prysur.

Symudodd Siobhan i Ogledd Iwerddon yn ddiweddar, ble mae wedi mwynhau ymgymryd â rôl yr athro ymarfer.

Mae Siobhan yn Gymrawd yr RSA

Bex Steen, Rheolwr Datblygu Arweinyddiaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru

Bex Steen yw Rheolwr Datblygu Arweinyddiaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae ganddi dros 22 mlynedd o brofiad arwain ym maes gofal cymdeithasol rheng flaen. Mae hi’n frwd dros helpu arweinwyr i dyfu ac mae hi’n cael ei hysbrydoli gan leisiau pobl sydd â phrofiad bywyd i wneud newid go iawn ac ystyrlon.

Mae Bex wrth ei bodd yn creu rhaglenni ymarferol a diddorol sy'n rhoi hwb i hyder a chwilfrydedd. Mae hi’n credu bod arweinyddiaeth ardderchog yn golygu mwy na dim ond gwneud penderfyniadau, mae’n ymwneud â phobl.

Ei chenhadaeth yw gwneud i arweinyddiaeth deimlo'n ddynol, yn agos-atoch ac yn effeithiol.