Jump to content
Ydych chi wedi meddwl am yrfa mewn gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant?

Ystyriwch yrfa lle rydych chi’n helpu eraill ac yn gwneud gwahaniaeth.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod amdan:

  • prentisiaethau
  • cymwysterau
  • sefydlu i swydd newydd
  • cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, os ydych chi'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Rydyn ni hefyd yn esbonio:

  • y gwahanol rolau mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • pwysigrwydd sefydlu pan fyddwch chi'n dechrau swydd newydd
  • gofynion cofrestru a chymhwyster
  • adnoddau am ddim i'ch cefnogi.
Pam mae gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn bwysig

Mae gweithio mewn gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant yn golygu helpu eraill a gwneud rhywbeth sy'n wirioneddol bwysig. Mae'n ymwneud â bod yn garedig, deall eraill, ac adeiladu cysylltiadau go iawn.

Mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth trwy gefnogi pobl sydd angen help, fel plant, oedolion hŷn, pobl ag anableddau, teuluoedd, neu'r rhai sy'n mynd trwy gyfnodau anodd.

Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau gwerthfawr fel cyfathrebu, hyder, a datrys problemau. Ac mae yna lawer o gyfleoedd i hyfforddi, tyfu, a symud i wahanol rolau.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn cyfuno gwaith cyflogedig ag astudio. Maen nhw'n agored i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn, ac yn cynnig hyfforddiant yn y swydd lle gallwch ennill y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant.

Gall prentis gael ei gyflogi ar gynllun prentisiaeth neu eisoes yn gweithio mewn lleoliad gofal.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am sut mae prentisiaethau yn cael eu hariannu a'u darparu, ac mae'n creu mwy o gyfleoedd prentisiaethau. Mae'n gweithio gyda sefydliadau eraill i ddylunio rhaglen ddysgu sy'n addas i chi, sy'n cefnogi datblygu, ac yn eich helpu i gwblhau tasgau cymhwyster wrth i'ch sgiliau a'ch gwybodaeth dyfu. Mae'r dolenni yn rhoi gwybodaeth am sut i ddod yn brentis, y gwahanol lefelau prentisiaeth, a sut i ddod o hyd i'r cyfleoedd sydd ar gael.

Darganfyddwch fwy isod:

Sefydlu

Pan fyddwch chi'n dechrau ar eich prentisiaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant, byddwch yn cwblhau sefydlu fel rhan o'ch rôl newydd.

Mae'r sefydlu yn eich helpu:

  • deall eich swydd
  • dysgu sut mae eich sefydliad yn gweithio
  • yn eich cyflwyno i'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i wneud y gwaith yn dda
  • dod yn gyfarwydd â'r safonau a'r disgwyliadau ar gyfer eich rôl
  • adeiladu hyder cyn ymgymryd â chyfrifoldebau.

Yng Nghymru, mae pob gweithiwr newydd yn dilyn fframwaith cenedlaethol o'r enw Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF). Mae'r fframwaith hwn yn sicrhau bod pawb yn cael yr un cyflwyniad o ansawdd uchel i'w rôl.

Mae dwy fersiwn, yn dibynnu ar ble rydych chi'n gweithio:

  • AWIF ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r rhai sy'n gweithio gydag oedolion neu mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.
  • AWIF ar gyfer Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant o enedigaeth i wyth oed.

Mae'r dolenni isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr AWIF, sut i'w gwblhau, logiau cynnydd, llyfrau gwaith, adnoddau a geirfa.

Ar gyfer gofal cymdeithasol:

Ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant:

Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (gofal cymdeithasol yn unig)

Dim ond os ydych chi'n gweithio mewn rolau gofal cymdeithasol penodol y mae angen i chi gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae cofrestru yn helpu i gadw pobl yn ddiogel ac yn sicrhau mai dim ond y rhai sydd â'r sgiliau, y wybodaeth, yr hyfforddiant a'r cymwysterau cywir sy'n cael eu caniatáu i roi gofal a chefnogaeth mewn swyddi sydd ei angen.

Y rolau sydd angen cofrestru gyda ni yw:

  • gweithwyr gofal plant preswyl
  • gweithwyr gofal cartref
  • gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
  • gweithwyr canolfannau teuluoedd preswyl
  • gweithiwr preswyl ysgol arbennigs.

Os ydych chi'n brentis yn un o'r rolau gofal cymdeithasol hyn, bydd gennych chwe mis o'ch dyddiad cychwyn i gofrestru gyda ni, gan ddefnyddio'r llwybr asesu cyflogwr. Bydd angen i chi gasglu tystiolaeth o'ch gwybodaeth a'ch sgiliau, y gallwch ei wneud fel rhan o'ch sefydlu.

Rhaid i unrhyw un sy'n cofrestru drwy'r llwybr asesu cyflogwr gwblhau un o'r cymwysterau a restrir ar y fframwaith cymwysterau. Rydym yn disgwyl i chi orffen y cymhwyster hwn o fewn tair blynedd ar ôl cofrestru, ond gallwch gael hyd at chwe blynedd i'w gwblhau os oes angen.

Cymwysterau

I weithio ym maes gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant, rhaid i chi gwblhau cymhwyster perthnasol. Rhaid cymeradwyo'r cymhwyster hwn a'i restru ar ein Fframwaith Cymwysterau.

Fel rhan o'ch prentisiaeth, byddwch yn cwblhau dau gymhwyster sy'n eich galluogi i weithio ym maes gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant. Y rhain yw:

ar gyfer y sector gofal cymdeithasol:

  • City & Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster craidd

plws

  • City & Guilds Lefel 2 neu 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cymhwyster ymarfer (oedolion neu blant a phobl ifanc)

ar gyfer y blynyddoedd cynnar a'r sector gofal plant:

  • CBAC Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd
  • Plws

City & Guilds Lefel 2 neu 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster ymarfer

Mae'r cymhwyster craidd lefel 2 yr un fath ar gyfer cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3, ond byddwch yn cymryd llwybrau gwahanol yn dibynnu ar eich rôl. Mae'r cymwysterau ymarfer yn asesu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith yn dda, a bydd y lefel rydych chi'n ei wneud yn dibynnu ar eich rôl a'ch cyfrifoldebau.

Adnoddau

Dyma fwy o adnoddau i'ch helpu i ddarganfod mwy am brentisiaethau:

Archebwch eich lle ar ein webinar am brentisiaethau

Darganfyddwch mwy am brentisiaethau - Dydd Iau, 12 Chwefror, 4pm i 5pm