Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19

Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd

Gofynnol er mwyn cofrestru :

  1. City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

a

  1. City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

neu un o'r canlynol

  1. City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

a

Unrhyw un o'r cymwysterau lefel 3 neu uwch a restrir ar y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer gweithiwr cymorth mewn canolfan breswyl i deuluoedd.


ac

Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer. Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.

a

  1. Gradd mewn gwaith cymdeithasol

a

  1. Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol

neu

  1. Gradd mewn gwaith cymdeithasol

a

Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:

  • yn o leiaf lefel 3
  • ganddo o leiaf 37 credyd
  • wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwadigaethol a bod y person cofrestriedig mewn rôl iechyd neu gofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.

Noder: Mae’r rheolwyr sy’n dal y Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol ond dim un o’r cymhwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau un o’r cymwysterau rheoli a restrwyd yn ei cyfnod cofrestru 3 mlynedd.

Mae angen cofrestru

Mae cofrestriad gwirfoddol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru bellach ar agor.


Cofrestrwch yma

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae'r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Cymwysterau eraill a dderbyniwyd

  1. Tystysgrif Prifysgol Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru)

ac

Wedi cofrestru ar y Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasnaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Plant a Phobl Ifanc) Cymru. Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y cymhwyster yma ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.


  1. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Plant a Phobl Ifanc) Cymru a Gogledd Iwerddon

  2. Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon

  3. NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal

  4. NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)

  5. NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

  6. NVQ 4 mewn Gofal

  7. NVQ 4 mewn MRCC (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal)

neu

Ar gyfer gweithwyr sydd wedi cofrestru cyn mis Mai 2013:

  1. Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd

O ganlyniad i newid cymwysterau yng Nghymru, fe fydd cymwysterau cyfwerth o weddill y DU yn cael eu hychwanegu yn fuan. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol fel rheolwr sydd a chymhwyster o weddill y DU.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.

Gofynion hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru (PRTL)

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am hyfforddiant a dysgu ôl-gofrestru.

Mae angen cofrestru

Mae cofrestriad gwirfoddol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru bellach ar agor.


Cofrestrwch yma
Printiwch y dudalen hon