Beth mae DPP yn ei olygu i weithwyr cofrestredig, a chyfrifoldebau cyflogwyr.
Beth yw DPP?
Mae pob gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig yn cytuno i weithio’n unol â safonau'r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
Mae gweithio yn ôl y Cod yn golygu eu bod nhw’n cymryd cyfrifoldeb am ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau trwy gynnal datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) rheolaidd.
Eich rôl fel cyflogwr
Mae'n bwysig eich bod chi’n cyfarfod eich staff yn rheolaidd i drafod eu DPP.
Dylech chi roi gwybod iddyn nhw pa gyfleoedd sydd ar gael a'u helpu nhw i benderfynu pa DPP i'w wneud.
Eich cyfrifoldeb chi yw cefnogi eich staff trwy:
- roi cyfleoedd iddyn nhw gael mynediad at arfer gorau yn y gweithle, ei drafod, myfyrio arno a’i rannu
- gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw gyfleoedd sefydlu, hyfforddi a dysgu
- neilltuo amser iddyn nhw gael eu goruchwylio a'u gwerthuso
- rhoi adborth defnyddiol iddyn nhw am eu perfformiad a'u datblygiad.
Dylech chi gynghori eich gweithiwr i gadw cofnod cyfredol o'u DPP.
Efallai byddwn ni’n samplu DPP gweithwyr felly mae'n bwysig cadw cofnodion cywir.