Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad
Cynnwys y sesiwn
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar sut rydych chi'n cyfathrebu ac yn gweithio gyda phobl eraill.
Byddwn yn canolbwyntio ar sut mae gwahanol bobl yn profi gwahanol ffyrdd o gyfathrebu. Byddwn hefyd yn archwilio sut y gall cyfathrebu cynhwysol gryfhau cydweithredu, dealltwriaeth ac effeithiolrwydd tîm.
Fe gewch chi:
- glywed enghreifftiau o ymarfer
- ddysgu gan gyfoedion
- gydnabod eich cryfderau presennol
- ddysgu sut i wneud y gorau o gyfathrebu cynhwysol, cydweithredu a gwaith tîm.