Jump to content
Digwyddiadau recriwtio yn seiliedig ar werthoedd
Digwyddiad

Digwyddiadau recriwtio yn seiliedig ar werthoedd

Dyddiad
18 Tachwedd 2026 i 2 Rhagfyr 2026, 9.30am i 4pm
Lleoliad
Conwy, Abertawe, Casnewydd
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

I bwy mae'r digwyddiad

  • Ydych chi'n rheolwr cofrestredig gwasanaethau preswyl i oedolion? 
  • Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut i ddenu a recriwtio'r bobl iawn?

Ymunwch â'n digwyddiad rhyngweithiol i ddarganfod sut i recriwtio pobl sydd â'r gwerthoedd sydd eu hangen i ddarparu gofal a chefnogaeth ragorol.  

 

Pryd a ble

Cynhelir y digwyddiadau wyneb-yn-wyneb hyn rhwng 9:30am a 4pm yn:

  • Canolfan Fusnes Conwy, 18 Tachwedd 2026
  • Gwesty Mercure Abertawe, 26 Tachwedd 2026
  • Christchurch Centre Casnewydd, 2 Rhagfyr 2026.

Wrth archebu, dewiswch pa ddigwyddiad yr hoffech ei fynychu.

 

Ynglŷn â'r digwyddiad

Yn ystod y sesiwn hon am recriwtio yn seiliedig ar werthoedd byddwn ni'n archwilio dulliau ymarferol o ymgorffori gwerthoedd yn eich prosesau recriwtio.  

Dewch i ymuno â Kerry Cleary o VBR Consulting i ddarganfod sut i:  

  • feithrin eich dealltwriaeth o recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd  
  • diffinio'r ymgeisydd delfrydol 
  • archwilio dulliau o atynnu a hysbysebu  
  • edrych ar ffyrdd o gynnwys gwerthoedd yn eich deunyddiau recriwtio a'ch prosesau dethol 
  • nodi ffyrdd o gynnwys pobl â phrofiad byw  
  • rhoi gwybod i ni sut y gallwn ni helpu i gyflwyno recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd i'r sector gofal cymdeithasol i oedolion ehangach. 

Sylwer: Cyn y sesiwn, byddwn ni'n gofyn i chi edrych dros rhai adnoddau rhagarweiniol am recriwtio seiliedig ar werthoedd fel y gallwn ni wneud y mwyaf o'n hamser gyda'n gilydd ar gyfer trafodaeth ystyrlon. 

Bydd y digwyddiad yn cael ei fynychu gan ddarparwyr gofal preswyl i oedolion a gwasanaethau preswyl i blant.

Yn ogystal:

Dyma'r sesiwn gyntaf mewn rhaglen ddysgu i'ch helpu chi i greu diwylliant gweithle cadarnhaol, recriwtio pobl sy'n rhannu eich gwerthoedd, a'u cefnogi nhw i aros gyda'ch sefydliad.

Ar ôl y sesiwn hon, byddwn ni'n cynnig tair sesiwn ar-lein ar ddechrau 2027 ynglŷn â:

  • atal blinder eithafol (burnout)
  • creu diogelwch seicolegol drwy broses ymsefydlu sy'n ystyriol ac yn dosturiol
  • deall pobl a'u hanghenion yn y gwaith.

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig

Dim ond un rheolwr cofrestredig o bob sefydliad preswyl i oedolion all fynychu pob sesiwn, gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig.

Er mwyn mynychu'r digwyddiad hwn, rhaid i chi ymgymryd â gwaith recriwtio fel rhan o'ch rôl, a bod yn gallu dylanwadu ar arferion recriwtio neu eu newid.