Jump to content
Sgiliau digidol ar gyfer gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar a gofal plant: Dysgwch sut i ddefnyddio Facebook i gefnogi'ch lleoliad
Digwyddiad

Sgiliau digidol ar gyfer gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar a gofal plant: Dysgwch sut i ddefnyddio Facebook i gefnogi'ch lleoliad

Dyddiad
11 Tachwedd 2026, 6pm i 7pm
Lleoliad
Arlein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar gyfer pwy mae hwn?
Unrhyw un sy'n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant a hoffai ddefnyddio Facebook i gefnogi ymgysylltu, cyfathrebu a hyrwyddo yn eu lleoliad.

Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn offeryn pwerus a all helpu lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant i arddangos eu darpariaeth, cyfathrebu â theuluoedd a denu darpar rieni/gofalwyr.

Yn y sesiwn ymarferol hon, byddwn yn ymdrin â'r hanfodion o ddefnyddio Facebook i gefnogi'ch lleoliad. Byddwch yn dysgu sut i sefydlu a rheoli tudalen Facebook, creu ac amserlennu postiadau, a defnyddio offer syml i helpu mwy o bobl i ddod o hyd i'ch lleoliad a dysgu amdano.

Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â:

  • sut i greu tudalen Facebook ar gyfer eich lleoliad
  • defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'ch lleoliad a chynyddu gwelededd yn y gymuned leol
  • creu postiadau Facebook 
  • hyrwyddo digwyddiadau, swyddi gwag a lleoedd sydd ar gael.

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gan gyfranogwyr well dealltwriaeth o sut i ddefnyddio Facebook yn broffesiynol.