Ar gyfer pwy mae hwn?
Unrhyw un sy'n gweithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant a hoffai ddatblygu eu hyder a'u sgiliau wrth ddefnyddio e-bost yn effeithiol yn y gweithle.
Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae cyfathrebu effeithiol yn rhan hanfodol o weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Bydd y sesiwn hon yn addas i ddechreuwyr gan gyflwyno hanfodion defnyddio meddalwedd e-bost a helpu cyfranogwyr i adeiladu hyder wrth reoli cyfathrebu proffesiynol.
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys:
- cyflwyniad i feddalwedd ebost a nodweddion allweddol
- sut i gyfansoddi negeseuon ebost clir a phroffesiynol
- rheoli a threfnu eich mewnflwch fel gweithiwr blynyddoedd cynnar a gofal plant proffesiynol
- awgrymiadau i arbed amser a chadw'n drefnus.
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn teimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio ebost i gyfathrebu â chydweithwyr, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.