Jump to content
Cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant 2026
Digwyddiad

Cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant 2026

Dyddiad
23 Medi 2026, 9am i 4pm
Lleoliad
Stadiwm Swansea.com, Abertawe
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n cynnal cynhadledd genedlaethol blynyddoedd cynnar a gofal plant eto eleni, ar ddydd Mercher 23 Medi yn Stadiwm Swansea.com, Abertawe.

Mae'r gynhadledd am ddim i fynychu ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Ymunwch â ni i glywed gan arbenigwyr blynyddoedd cynnar, yn ogystal ag ymarferwyr o leoliadau fydd yn rhannu sut mae addasu'r theori i ymarfer dydd i ddydd. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer dysgu proffesiynol, myfyrio a rhwydweithio.

Cynnwys y sesiwn:

  • Ymarfer gwrth-wahaniaethu – byddwn ni'n archwilio sut y gellir gwreiddio ymarfer gwrth-wahaniaethu a gwrth-hiliaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys gwrando ar brofiadau bywyd, ymarfer myfyriol, gweithio mewn partneriaeth a’r heriau o greu newid ystyrlon a chynaliadwy.
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth – byddwn ni'n edrych ar beth sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol yn y sector a sut y caiff ei ddangos yn ymarferol, gan gynnwys yr effaith gadarnhaol ar gadw staff a’u llesiant.
  • Cyflwyniad i fframwaith NYTH – cefnogi iechyd meddwl a llesiant babanod, plant a phobl ifanc.
  • Llesiant – gwerthfawrogi a grymuso staff a phlant, a chreu amgylcheddau cadarnhaol lle mae pawb yn teimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn saff.

Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn y gynhadledd!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â eycc@socialcare.wales