Jump to content
Amser i siarad: sgwrsio â'r tîm cymorth i gyflogwyr
Digwyddiad

Amser i siarad: sgwrsio â'r tîm cymorth i gyflogwyr

Dyddiad
2 Tachwedd 2026 i 19 Tachwedd 2026, 9am i 5pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Archebwch slot 30 munud i sgwrsio â'r tîm cymorth i gyflogwyr

Ymunwch â ni ar:

  • 2 Tachwedd 2026
  • 3 Tachwedd 2026
  • 19 Tachwedd 2026

Methu dod? Bydd y sesiynau hyn ar gael yn rheolaidd, felly byddwn ni’n cynnig mwy cyn bo hir.

Beth yw pwrpas y sesiynau hyn? 

Os ydych chi'n rheolwr cofrestredig, yn unigolyn cyfrifol (RI), yn gyflogwr, neu'n cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae'r sesiynau anffurfiol hyn yn gyfle i sgwrsio gyda ni. Gallwch chi ymuno ar eich pen eich hun neu wahodd cydweithwyr i gymryd rhan. 

Rydyn ni yma i wrando a helpu.

Pan fyddwch chi'n archebu eich lle, byddwn ni’n gofyn am amlinelliad byr o'r hyn yr hoffech chi ei drafod fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod y cymorth cywir ar gael. 

Beth allwn ni siarad amdano?

  • cefnogaeth, adnoddau a chyfleoedd sydd gennym ni ar gael i chi
  • eich heriau neu themâu sy'n dod i'r amlwg 
  • rhannu eich arfer da a'ch llwyddiannau 
  • syniadau yr hoffech eu datblygu 
  • adeiladu cysylltiadau â'r tîm cymorth i gyflogwyr ac eraill yn ein sefydliad 
  • deall ein prosesau 
  • codi cwestiynau yn gynnar ac archwilio'r camau nesaf.

Sylwch

Efallai na fyddwn ni’n gallu ateb pob cwestiwn yn ystod y cyfarfod, ond byddwn ni’n eich helpu chi i nodi'r camau nesaf a'ch cysylltu â'r bobl iawn.

 Ni fyddwn ni’n gallu darparu cymorth gyda:

  • achosion unigol, ceisiadau, adnewyddiadau, neu materion addasrwydd i ymarfer
  • problemau mewngofnodi ar GCCar-lein neu broblemau technegol 
  • cyngor cyfreithiol
  • cwynion am wasanaethau Gofal Cymdeithasol Cymru 
  • pryderon diogelu.

Fel bob amser, bydden ni'n croesawu eich adborth ar ôl y sesiwn i'n helpu i wella.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi. 

Archebwch eich lle