Jump to content
Joanne Beedham
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom.
Cyflogwr
Yn flaenorol Voyage Care, Wrexham
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiad yn ymwneud â phryderon diogelu a brofwyd yn erbyn Ms Beedham, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Beedham i ymarfer a gosododd orchymyn dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Ms Beedham yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bobl sy'n cael eu Dileu.

Mae gan Ms Beedham yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru



Crynodeb o honiadau

Bydd y gwrandawiad hwn yn ystyried pryderon diogelu difrifol a godwyd mewn perthynas ag ymddygiad Joanne Beedham.