Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau a chymorth er mwyn gwella canlyniadau llesiant personol unigolion, yn blant ac oedolion. Mae hyn yn gallu digwydd mewn nifer o leoliadau ond, fel arfer, maent o dan gyfarwyddyd yr awdurdod lleol. Bydd y gwasanaethau hyn yn cynnwys swyddogaethau a lleoliadau arbenigol neu amlasiantaeth, er enghraifft, Timau Dyletswydd Argyfwng, y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth, y Tîm o Amgylch y Teulu a lleoliadau iechyd integredig.
Rôl swyddi
- Gweithredwr / gweithiwr gwybodaeth, cyngor a chymorth
- Gweithiwr cymorth ym maes gwaith cymdeithasol
- Ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol
- Gweithiwr cymdeithasol ym mlynyddoedd 1 a 2
- Gweithiwr cymdeithasol ym mlynyddoedd 3 a thu hwnt
- Swyddog adolygu annibynnol
- Gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy
- Uwch ymarferydd gwaith cymdeithasol
- Gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol
- Rheolwr tîm gwaith cymdeithasol