Os bydd ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol yn cynnal asesiadau, dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod ganddo’r sgiliau, yr hyfforddiant a’r cymwysterau priodol i wneud hynny.
Mae'r lefelau priodol o gymwysterau ar gyfer gwneud y gwaith hwn yn cynnwys y canlynol:
- naill ai ymarferydd gwaith cymdeithasol neu ymarferydd gofal cymdeithasol cofrestredig gyda chymhwyster proffesiynol lefel 5 neu uwch
- neu rywun gyda chymhwyster gofal cymdeithasol lefel 4 neu uwch, sy'n cynnwys gwybodaeth a sgiliau i gynnal asesiadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, o dan oruchwyliaeth ymarferydd gofal cymdeithasol neu ymarferydd gwaith cymdeithasol cofrestredig.
Hefyd, mae angen i’r awdurdod lleol fod yn fodlon bod gan yr holl staff sy’n ymgymryd â'r gweithgareddau hyn y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i weithio gyda phlant a phobl ifanc, oedolion a gofalwyr, fel sy'n briodol.
Does dim cymwysterau blaenorol cydnabyddiedig ar gyfer y rôl yma. Os mae ymarferydd gwasanaethau cymdeithasol yn meddu ar gymhwyster gwahanol i:
Tystysgrif AU y Brifysgol Agored mewn Ymarfer Gofal Cymdeithasol (Cymru) a City and Guilds Lefel 4 Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol.
yna cyfrifoldeb y cyflogwr yw hi i wneud y penderfyniad os yw’r cymhwyster yna’n cwrdd ag anghenion ar gyfer cynnal asesiadau yn unol â Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac unrhyw Godau Ymarfer.