Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.
Mae’n rhaid i weithwyr cymdeithasol sydd wedi cymhwyso ar ôl 1 Ebrill 2016 gwblhau'r Rhaglen Gadarnhau ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol sydd Newydd Gymhwyso fel rhan o'u tair blynedd gyntaf o ymarfer gwaith cymdeithasol.
Disgwylir hefyd i bob gweithiwr cymdeithasol newydd gael copi o'r ddogfen Y Gweithiwr Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.