Mae'r dirprwy reolwr gofal preswyl i blant yn cefnogi ac yn cynorthwyo rheolwr y gwasanaeth a bydd, pan fydd angen, yn dirprwyo ar ran y rheolwr.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
I gofrestru fel rheolwr:
Unrhyw un o'r cymwysterau ar gyfer rheolwr gofal preswyl i blant.
I gofrestru fel gweithiwr:
-
City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
ac
-
City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
neu
-
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
neu
-
Gradd mewn gwaith cymdeithasol
Mae unrhyw weithiwr sydd ddim yn meddu ar un o’r cymwysterau yma yn gallu rhoi cais i gofrestru trwy ddefnyddio un o’r llwybrau i gofrestru.
Fe dderbynnir unrhyw gymwysterau a rhestrwyd ar gyfer rolau uwch yn yr un maes gwasanaeth ar gyfer cofrestru yn y rôl yma hefyd.