Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Gofynnol er mwyn cofrestru :
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
a
City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
neu
Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 neu uwch arall ar gyfer gweithwyr cartref gofal i blant a phobl ifanc.
ac
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ac
Wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
neu
Unrhyw un o’r cymwysterau lefel 3 neu uwch arall ar gyfer gweithwyr cartref gofal i blant a phobl ifanc.
ac
Wedi cofrestru ar City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gwblhau a chwblhau City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
neu
Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio neu Therapi Galwedigaethol.
ac unai
Tystysgrif Ôl-radd mewn Rheoli Ansawdd Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol
neu
Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:
- yn o leiaf lefel 3
- ganddo o leiaf 37 credyd
- wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwedigaethol a bod y person cofrestredig mewn rôl iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.
Mae’r rheolwyr sy’n dal un o’r graddau a rhestrwyd ond dim un o’r cymwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau'r cymhwyster perthnasol yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
Gofynion eraill
Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.
Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.
Cymwysterau eraill a dderbyniwyd
Mae angen cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. Lle nad oes gennych un o'r rhain ond bod gennych gymhwyster arall sy'n bodloni meini prawf hanfodol y cytunwyd arnynt, gellir defnyddio cwblhau'r Fframwaith Sefydlu fel elfen atodol os ydych am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai:
• am y tro cyntaf neu;
• symud i ran wahanol o'r Gofrestr.
Os hoffech ddefnyddio'r llwybr hwn i gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r tîm cofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylech gwblhau'r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis cyntaf eich cofrestriad, a rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn fel rhan o adnewyddu eich cofrestriad.
Os rydych wedi cofrestru gyda ni yn barod ac eisiau symud i ran arall o’r Gofrestr, does dim angen anfon cais newydd. Dylech chi anfon e-bost at cofrestwyr@gofalcymdeithasol.cymru i ofyn i newid eich cofrestriad.
Cymwysterau eraill sy’n cael eu derbyn er mwyn cofrestru:
Tystysgrif Prifysgol De Cymru Camu Ymlaen i Reoli (Gofal Cymdeithasol Cymru)
a
Wedi cofrestru ar Diploma Lefel 5 mew Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Plant a Phobl Ifanc (Cymru).
Mae angen i’r rhai sydd wedi cofrestru ar y City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer ei gwblhau yn ei gyfnod cofrestru 3 mlynedd.
neu
Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheolaeth Breswyl Plant a Phobl Ifanc) Cymru
NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal (mae’n rhaid i hyn gynnwys unedau B6 a B7)
NVQ 4 Rheolwyr Gofal Preswyl i Blant
neu
Un o'r cymwysterau gofal canlynol, ynghyd ag un o'r cymwysterau rheoli canlynol:
Cymwysterau gofal:
NVQ 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
NVQ 4 mewn Gofal
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Tystysgrif mewn Gofal Preswyl i Blant a Phobl Ifanc
Tystysgrif Uwch mewn Gofal Preswyl i Blant a Phobl Ifanc
Cymwysterau rheoli:
NVQ 5 mewn Rheoli
NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)
NVQ 4 mewn Arwain a Rheoli ar gyfer Gwasanaethau Gofal (os nad yw unedau B6 a B7 wedi’u cynnwys)
MBA
Diploma mewn Astudiaethau Rheoli
Tystysgrif mewn Astudiaethau Rheoli
Tystysgrif Ôl-radd/ Diploma/ Gradd Meistr mewn Rheoli
City and Guilds 3250-03 Rheolaeth Uwch mewn Gofal
Diploma mewn Rheoli Gwasanaethau Gofal
Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd
Mae angen cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. Lle nad oes gennych un o'r rhain ond bod gennych gymhwyster arall sy'n bodloni meini prawf hanfodol y cytunwyd arnynt, gellir defnyddio cwblhau'r Fframwaith Sefydlu fel elfen atodol os ydych am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai:
• am y tro cyntaf neu;
• symud i ran wahanol o'r Gofrestr.
Os hoffech ddefnyddio'r llwybr hwn i gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r tîm cofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylech gwblhau'r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis cyntaf eich cofrestriad, a rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn fel rhan o adnewyddu eich cofrestriad.
Os rydych wedi cofrestru gyda ni yn barod ac eisiau symud i ran arall o’r Gofrestr, does dim angen anfon cais newydd. Dylech chi anfon e-bost at cofrestwyr@gofalcymdeithasol.cymru i ofyn i newid eich cofrestriad.
Gofynion sefydlu
Mae’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol yn cynnwys lled y cyfrifoldeb ar gyfer arwain a rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol ac yn darparu strwythur ar gyfer sefydlu ar draws Cymru.
Mae gan gyflogwyr cyfrifoldeb i wneud yn siŵr fod eu rheolwyr newydd yn derbyn sefydlu addas gan ddefnyddio’r fframwaith yma. Gall rheolwyr fod yn newydd i’r rôl, sefydliad neu’r sector.
Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.
Datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL)
Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig gyflawni 90 awr neu 15 diwrnod o DPP ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd y mae'r unigolyn wedi cofrestru.