Y rheolwr fyddai’n gyfrifol am bennu’r cyfeiriad gweithredol, ac am drefnu bod y ddarpariaeth yn cael ei rhedeg yn effeithiol. Y rheolwr fydd y “person â chyfrifoldeb” fel arfer.
Os oes gennych chi ymholiad am gymwysterau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar, anfonwch e-bost atom yn eycc@socialcare.wales gan nodi teitl y cymhwyster, lle y cafwyd y cymhwyster, rôl y swydd a’r math o leoliad y mae’r rôl ar ei gyfer.