Os ydych chi'n drethdalwr yn y DU, gallwch chi hawlio rhyddhad treth ar eich ffioedd cofrestru.
Mae hyn yn golygu i berson cofrestredig sy'n talu treth ar y gyfradd dreth sylfaenol o 20 y cant, y bydd ffi o £30 yn costio £24 ar ôl rhyddhad treth o £6, i bob pwrpas. Mae trethdalwyr sydd ar y gyfradd dreth uwch hefyd yn gymwys.
- Dim ond drwy CThEF (HMRC) y gallwch hawlio rhyddhad treth - ni allwn ni ei brosesu i chi.
- Nid yw trethdalwyr y tu allan i’r DU yn gymwys i gael rhyddhad treth.
- Dim ond am ffioedd rydych chi wedi'u talu eich hun y gallwch hawlio.
Sut i hawlio rhyddhad treth
Mae dau ffordd o hawlio rhyddhad treth ar eich ffioedd cofrestru:
- Os nad ydych yn cwblhau ffurflen dreth, gallwch hawlio rhyddhad treth gan ddefnyddio ffurflen P87: Rhyddhad treth ar gyfer treuliau cyflogaeth, sydd ar gael ar wefan GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Os byddwch chi'n cwblhau ffurflen dreth hunanasesiad, gallwch hawlio rhyddhad treth o'ch ffioedd cofrestru ar yr adran treuliau cyflogaeth.
Cofiwch fod yn rhaid i chi dalu'r ffi lawn i Ofal Cymdeithasol Cymru a hawlio unrhyw ryddhad treth ar wahân drwy CThEF.
Mwy o wybodaeth: GOV.UK