Rydyn ni’n chwilio am ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i gymryd rhan mewn prosiect newydd.
Bydd y prosiect yn ein helpu i lunio a phrofi dulliau sy'n cefnogi diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Drwy gymryd rhan yn y prosiect, byddwch yn:
- profi a rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio mewn lle diogel
- gwneud cysylltiadau a chael cyfle i rwydweithio â phartneriaid a darparwyr allweddol y sector
- ymuno â ni i ddatblygu a dysgu gyda'n gilydd
- bod yn rhan o lunio diwylliannau gwaith cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol ledled Cymru.