Jump to content
Ymunwch â'n prosiect newydd i'n helpu i ddatblygu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol
Newyddion

Ymunwch â'n prosiect newydd i'n helpu i ddatblygu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n chwilio am ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i gymryd rhan mewn prosiect newydd.

Bydd y prosiect yn ein helpu i lunio a phrofi dulliau sy'n cefnogi diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol ledled Cymru. 

Drwy gymryd rhan yn y prosiect, byddwch yn:

  • profi a rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio mewn lle diogel 
  • gwneud cysylltiadau a chael cyfle i rwydweithio â phartneriaid a darparwyr allweddol y sector 
  • ymuno â ni i ddatblygu a dysgu gyda'n gilydd
  • bod yn rhan o lunio diwylliannau gwaith cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Dywedodd Emma Davies, ein Pennaeth Diwylliannau Cadarnhaol:

"Yn gynharach eleni, ymatebodd tua 100 o bobl ein galwad i rannu eu barn am ddiwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol.

"Diolch i bawb a gymerodd ran a rhannu eu profiadau. 

"Rhoddodd eich mewnbwn fewnwelediadau gwerthfawr i ni, ac maent bellach yn cael eu defnyddio fel sylfeini i gefnogi'r gwaith pwysig hwn. 

"Ar gyfer cam nesaf ein prosiect rydyn ni’n chwilio am ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i helpu i lunio a phrofi cynnig newydd.

"Mae angen i'r cynnig fod yn ymarferol ac yn ddefnyddiol er mwyn iddo wneud gwahaniaeth go iawn. 

"Mae gan bawb yr hawl i brofi a bod yn rhan o ddiwylliant cadarnhaol – boed hynny yn y gweithle, neu wrth gael mynediad at ofal.”

Bydd y gwaith hwn yn cefnogi ail gam ein rhaglen newydd i helpu i lunio ac adeiladu diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle. 

Mae'r gwaith wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu dysgu a thystiolaeth o dechnegau ymarferol a defnyddiol i gefnogi diwylliannau cadarnhaol yng Nghymru.

Mae'n gyfle i ni weithio gyda'n gilydd gyda darparwyr i ddatblygu a dysgu yn ddiogel am wahanol ffyrdd ymarferol a defnyddiol i gefnogi diwylliannau cadarnhaol.

Cymerwch ran

Bydd y dysgu yn ein helpu i ddatblygu ein cynnig ymchwil, arloesi a gwella. 

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y cynnig hwn yn adlewyrchu realiti'r sector,  rydyn ni’n chwilio am gymysgedd amrywiol o ddarparwyr gofal cymdeithasol i oedolion i gymryd rhan yn y rhaglen.

P'un a ydych ar ddechrau eich taith, neu os oes gennych arferion diwylliannau cadarnhaol sefydledig ar waith, bydd eich mewnbwn yn gwneud gwahaniaeth.

I fynegi diddordeb, e-bostiwch: diwylliannaucadarnhaol@gofalcymdeithasol.cymru

Gweithio gyda’r Rayne Foundation

Rydyn ni’n gweithio gyda’r Rayne Foundation i hyrwyddo a thyfu diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol.

Gyda'u cefnogaeth, rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol o fewn eu sefydliadau. 

Mwy o wybodaeth

Cewch ddod o hyd i’n canllaw cefnogi diwylliannau cadarnhaol, ar ein gwefan Y Grŵp Gwybodaeth.