Rydyn ni’n cynnal wythnos o ddigwyddiadau llesiant ar-lein ym mis Ionawr i gefnogi pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.
Rhwng 18 a 22 Ionawr, bydd gwesteion arbennig yn ymuno â ni i rannu gwybodaeth am y pethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi eich llesiant eich hun, a llesiant y bobl o'ch cwmpas yn y gwaith.
Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae Wythnos Llesiant yn ofod positif lle gall pobl o fewn y sector ddod at ei gilydd i ddysgu am lesiant ac i rannu arferion gorau.
Bydd nifer o sesiynau gwahanol a rhywbeth at ddant pawb – o weithdai i weminarau – am bynciau sy’n cynnwys:
- presenoldeb arweinwyr a dilysrwydd
- cefnogi gofalwyr di-dâl yn eich tîm
- cefnogi cwsg
- creu ffiniau digidol
- diogelu llesiant mewn rolau sy'n heriol yn emosiynol.
Mae sesiynau Wythnos Llesiant yn seiliedig ar y pethau rydych chi wedi dweud wrthym am eich gwaith yn yr arolygon blynyddol ar gyfer gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae'r pynciau hefyd wedi'u cysylltu â fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu diwygiedig.
Mae hyn yn golygu y gall yr hyn rydych chi'n ei glywed a'i ddysgu fod yn ddefnyddiol ac yn berthnasol yn y gwaith y tu hwnt i Wythnos Llesiant.
Dywedodd Rebecca Cicero, Pennaeth Diwylliant ac Arweinyddiaeth Gofal Cymdeithasol Cymru: