Jump to content
Ymgeisiwch ar gyfer Gwobrau 2026!
Newyddion

Ymgeisiwch ar gyfer Gwobrau 2026!

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi wedi gwneud rhywbeth unigryw neu arloesol sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'r bobl rydych chi’n eu cefnogi neu’ch gweithlu?

Neu, ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gofal, ac sy’n haeddu cael ei cydnabod am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud? Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Rydyn ni nawr yn croesawu ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2026, y gwobrau blynyddol sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Felly, os ydych chi’n dîm, yn grŵp, neu’n fudiad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector gwirfoddol neu’r sector cydweithredol yng Nghymru, rhowch wybod i ni am eich llwyddiannau i gael y cyfle i ennill gwobr nodedig.

Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddathlu unigolion sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy’r gofal a’r cymorth maen nhw’n eu darparu.

Rydyn ni’n gofyn i gydweithwyr, cyflogwyr, pobl sy’n derbyn gofal a chymorth neu eu gofalwyr, eu teulu a’u ffrindiau i enwebu unrhyw weithwyr neu wirfoddolwyr yr hoffen nhw gael eu cydnabod gyda Gwobr.

Mae saith categori ar gael eleni – pedwar ar gyfer timau, prosiectau a sefydliadau, a tri ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr.

Dyma’r categorïau ar gyfer grwpiau, prosiectau a sefydliadau:

  • Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
  • Defnydd effeithiol o ddigidol a thechnoleg
  • Ffyrdd arloesol o recriwtio a chadw’r gweithlu
  • Cefnogi pobl i fyw’r bywyd sy’n bwysig iddyn nhw.

Dyma’r categorïau ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr:

  • Gwobr arweinyddiaeth ysbrydoledig
  • Gwobr dysgwr y flwyddyn
  • Gwobr Gofalwn Cymru.

Meddai Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn darparu gofal a chymorth hanfodol bob dydd ar draws pob cymuned yng Nghymru.

“Dyna pam mae’n hanfodol ein bod ni’n cymryd yr amser hwn i gydnabod, dathlu a rhannu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn y sectorau.

“Hoffen ni gael cynifer o geisiadau ac enwebiadau â phosib ar gyfer y Gwobrau eleni i’n helpu ni i rannu’r enghreifftiau cadarnhaol o wasanaethau ac unigolion sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng Nghymru.

“Felly, os ydych chi’n dîm, yn brosiect neu’n sefydliad sy’n gwneud rhywbeth unigryw neu arloesol yng ngofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar, byddwn i’n eich annog chi i gymryd rhan yn y Gwobrau eleni er mwyn i ni allu cydnabod eich llwyddiannau a dathlu’r gwaith positif rydych chi’n darparu pob dydd.

“Neu, os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n gwneud bywydau pobl eraill yn well drwy’r gofal a’r cymorth maen nhw’n eu darparu, beth am eu henwebu ar gyfer un o’n gwobrau ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr?”

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ac enwebiadau yw 5pm, 10 Tachwedd 2025.