Jump to content
Rydyn ni’n croesawu'r cyhoeddiad heddiw am yr Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i Gymru
Newyddion

Rydyn ni’n croesawu'r cyhoeddiad heddiw am yr Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i Gymru

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol heddiw sy'n ymrwymo £1.5 miliwn o gyllid i gefnogi cam cyntaf yr Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i Gymru.

Bydd yr academi ofal, a fydd yn adeiladu ar lwyddiant academïau gofal lleol ledled Cymru, yn cefnogi gweithwyr gofal i hyfforddi, datblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Rydyn ni’n croesawu'n gynnes y cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol am yr Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i Gymru.

“Rydyn ni'n gwybod o ganlyniadau ein harolwg blynyddol o'r gweithlu gofal cymdeithasol bod y rhan fwyaf o bobl yn ymuno â'r sector oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

“Rydyn ni eisiau i ofal cymdeithasol gael ei ystyried yn eang fel gyrfa o ddewis ac mae pobl sy'n gweithio yn y sector yn dweud wrthym ni’n gyson bod cyfleoedd ar gyfer dilyniant, ynghyd â llwybrau gyrfa clir a chyflog teg yn hanfodol i gyflawni hynny.

“Bydd yr academi gofal yn adeiladu ar y gwaith yr ydyn ni a'r sector gofal cymdeithasol ehangach yn ei wneud i greu llwybrau gyrfa cliriach a chefnogi gweithwyr gofal i ddatblygu eu sgiliau, ennill cymwysterau ac archwilio rolau gwahanol ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r sector ehangach i wireddu'r weledigaeth o adeiladu Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol i Gymru.”

Fel rhan o'n gwaith i gefnogi cyfleoedd ar gyfer dilyniant, rydyn ni’n aelod o'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, grŵp partneriaeth gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i ymgorffori gwaith teg a gwella telerau ac amodau i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Heddiw, mae'r grŵp wedi lansio fframwaith cyflog a dilyniant gwirfoddol ddrafft newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, sydd ar gael ar dudalennau gwe’r Fforwm.

Wedi'i gynllunio i dynnu sylw at lwybrau gyrfa a chyfleoedd, mae'r fframwaith yn nodi pum band swyddi sy'n cwmpasu rolau sy'n cefnogi oedolion neu blant a phobl ifanc.

Mae pob band yn amlinellu'r gwerthoedd, y priodoleddau a'r ddealltwriaeth ddisgwyliedig. Nid yw'r fframwaith ar hyn o bryd yn cynnwys graddfeydd cyflog disgwyliedig, ond mae'n cynnig pwynt cyflog cychwynnol, a bydd graddfeydd cyflog llawn yn dilyn.