Heddiw, cafodd Jodie Evans, rheolwr ardal Meithrinfeydd a Chlybiau Y Tu Allan i Oriau Ysgol St Aubin, ei henwi'n enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026 mewn digwyddiad yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las.
Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn ddigwyddiad blynyddol, sy’n cydnabod ac yn dathlu gweithwyr gofal sy’n darparu gofal a chymorth ragorol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Enillodd Jodie, sy’n rheolwr ardal ar gyfer naw meithrinfa a chlybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, y wobr am greu amgylchedd cwbl ddwyieithog lle mae’r Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi ac yn weladwy.
O dan arweiniad Jodie, mae’r meithrinfeydd a’r clybiau gofal plant wedi creu amgylchedd cynhwysol i blant a theuluoedd o gartrefi Cymraeg a chartrefi di-Gymraeg.
Cafodd Jodie ei henwebu ar gyfer y wobr gan Megan Morris, sy'n gweithio gyda Jodie trwy ei rôl yng Nghlybiau Plant Cymru Kids' Clubs.
Roedd Jodie yn un o dri unigolyn o bob cwr o Gymru a ddewiswyd i gyrraedd y rownd derfynol gan banel arbenigol o feirniaid, a oedd yn cynnwys Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Dysgu, ac Ellen Thirsk, Prif Weithredwr Antur Waunfawr.
Dewiswyd Jodie fel enillydd y wobr trwy bleidlais gyhoeddus, a welodd bron i 3,200 o bobl yn pleidleisio.
Derbyniodd ei gwobr mewn seremoni amser cinio yn gynharach heddiw ym mhabell Llywodraeth Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las yn Sir Benfro.
Y rhai eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol, a oedd hefyd yn bresennol yn y seremoni wobrwyo ac a gafodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, oedd:
- Owain Simpson, rheolwr gweithredol yn sefydliad gofal preswyl i blant Enfys Care yng Nghasnewydd, a enwebwyd am fod yn eiriolwr brwd dros ofal Cymraeg
- Sian Francis, Cysylltydd ICAN yn KIM Inspire, sy'n darparu cymorth iechyd meddwl cymunedol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal cefn gwlad yn ne Sir Ddinbych, lle mae’n cefnogi tua 250 o bobl bob blwyddyn.
Dywedodd Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i Jodie ac i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol!
“Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth gan rywun sy'n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol o ansawdd uchel.
“Mae’r wobr eleni yn tynnu sylw at enghreifftiau gwych o weithwyr gofal ysbrydoledig ac ymroddedig sy’n darparu gofal rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol i gyd yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar fywydau pobl.
“Byddem ni’n annog pob gweithiwr gofal i ddefnyddio’r Gymraeg sydd gennych chi yn y gwaith, ac mae gennym ni lawer o adnoddau i’ch helpu chi i ddatblygu a gwella eich Cymraeg i gefnogi'r broses o ddarparu gwasanaethau yn newis iaith pobl.”