Jump to content
Pum rheswm i ymgeisio neu enwebu gweithiwr ar gyfer Gwobrau 2026
Newyddion

Pum rheswm i ymgeisio neu enwebu gweithiwr ar gyfer Gwobrau 2026

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae llai na phythefnos ar ôl i chi ymgeisio ar gyfer Gwobrau 2026.

Dyma’r gwobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith rhagorol ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Os nad ydych chi wedi cyflwyno eich cais eto – dyma bum rheswm pam y dylech chi wneud cais am Wobr ar ran eich tîm, prosiect neu sefydliad, neu enwebu gweithiwr neu wirfoddolwr am wobr.

1. Cydnabod eich cyflawniad

Mae llawer o waith rhagorol yn mynd rhagddo ledled Cymru i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae’r Gwobrau yn gyfle i gydnabod y gwaith rydych chi’n ei wneud ac mae’n gyfle i’r sectorau gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar i ymfalchïo yn yr hyn y maen nhw wedi’u cyflawni.

2. Cynyddu morâl a balchder staff

Does dim rhaid i chi ennill Gwobr i wella morâl a balchder staff, ond mae dangos i’ch tîm neu’ch aelodau staff eich bod chi’n teimlo bod eu gwaith nhw’n deilwng o ennill un o’r Gwobrau hyn yn gallu bod yn ffordd wych o hybu morâl a brwdfrydedd.

Mae ysgrifennu eich cais neu eich enwebiad yn gyfle i chi a’ch tîm ystyried gwerth eich gwaith. Mae’n hawdd colli golwg ar hyn weithiau, hyd nes byddwch chi’n camu’n ôl ac yn edrych arno’n wrthrychol.

3. Rhannu ymarfer nodedig a syniadau newydd

Gall rhannu eich profiadau a’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu rhoi gwybodaeth amhrisiadwy i bobl eraill er mwyn helpu i gryfhau gofal a chymorth ledled Cymru. Drwy ymgeisio neu enwebu gweithiwr neu wirfoddolwr ar gyfer gwobr, rydych chi’n dangos eich ymrwymiad i rannu profiadau a dysgu oddi wrth eraill.

4. Gwella canlyniadau ar gyfer pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth

Mae pobl yn gweithio ym meysydd gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd i helpu i wella bywydau pobl sy’n defnyddio’u gwasanaethau. Mae’r Gwobrau yn cydnabod y gwaith caled sy’n mynd rhagddo mewn cymunedau ledled Cymru. Drwy ddathlu ac arddangos y gorau o’r gwaith hwn, gall y Gwobrau helpu i wella gofal a chymorth i bawb.

5. Gwella delwedd gofal

Gyda saith categori, mae’r Gwobrau yn llwyfan i arddangos y ddarpariaeth gofal a chymorth orau ar gyfer amrywiaeth o bobl. O gefnogi pobl hŷn i blant bach, hyrwyddo arweinyddiaeth ysbrydoledig i ffyrdd arloesol o recriwtio a chadw’r gweithlu – mae’r Gwobrau yn tynnu sylw at rai o’r mentrau a’r gweithwyr a gwirfoddolwyr mwyaf ysbrydoledig o bob cwr o Gymru.

A fydd eich prosiect neu eich aelodau staff yn disgleirio yn 2026?

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud cais neu enwebiad ar gyfer y Gwobrau eleni – mae gennych chi tan 5pm, 10 Tachwedd 2025 i wneud hynny.