Jump to content
Pleidleisiwch dros enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026
Newyddion

Pleidleisiwch dros enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r bleidlais nawr ar agor i ddewis enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026. 

Mae’r wobr yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr cyflogedig ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar sy’n darparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae tri gweithiwr wedi’u dewis gan banel o feirniaid arbenigol i gyrraedd rownd derfynol y wobr eleni, sef: 

  • Jodie Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr, Meithrinfeydd a Chlybiau Tu Allan i'r Ysgol St Aubin 
  • Owain Simpson, Rheolwr Gweithredol, Enfys Care Ltd 
  • Sian Francis, Cysylltydd ICAN, KIM Inspire. 

Rydyn ni nawr yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i bleidleisio dros y person maen nhw’n meddwl y dylai gael ei goroni’n enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026. 

Mae’r bleidlais ar agor tan 26 Gorffennaf. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, Sir Benfro am hanner dydd ar ddydd Mawrth, 4 Awst 2026. 

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026 a diolch i bawb a enwebodd weithiwr. 

“Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth gan rywun sy’n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol, o ansawdd uchel. 

“Hoffwn i annog i bawb i ddangos eich cefnogaeth i’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg a’r tri gweithiwr gwych sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol drwy bleidleisio dros y gweithiwr y credwch chi y dylid ei enwi yr enillydd.”