Rydyn ni’n croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, yn penodi Katija Dew (Teej) fel ein Cadeirydd newydd.
Bydd Katija Dew yn ymgymryd â'r rôl ym mis Gorffennaf, gan gymryd lle Mick Giannasi sy'n ymddeol ar ôl saith mlynedd wrth y llyw.
Dywedodd Katija Dew: “Rwy'n falch iawn o fod yn Gadeirydd nesaf Gofal Cymdeithasol Cymru. Ers ymuno â'r Bwrdd fis Ebrill diwethaf, mae ymrwymiad y sefydliad i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru wedi creu argraff gyson arnaf.
“Fy uchelgais yw sicrhau bod y sefydliad yn parhau i gael ei lywodraethu'n dda ac yn cael effaith glir a chadarnhaol i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn, gofalwyr a’r rhai sy’n gweithio yn y sector ledled Cymru.
“Mae Mick wedi gosod safon eithriadol mewn llywodraethu, ac rwy'n benderfynol o adeiladu ar yr gwaith arbennig y mae'n ei adael ar ei ôl."
Dywedodd Mick Giannasi: “Bydd yn bleser mawr i mi drosglwyddo rôl Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru i Teej ym mis Gorffennaf.
“Yn ystod ei chyfnod fel aelod o'r Bwrdd, ac fel Cadeirydd ein Pwyllgor Archwilio a Risg, mae hi wedi creu argraff gyson arnon ni gyd gyda'i diwydrwydd, ei dull trylwyr o lywodraethu a'r mewnwelediad gwerthfawr y mae'n dod o'i phrofiad eang.
“Rwy'n hyderus y bydd Teej yn Gadeirydd rhagorol ac rwy'n gwybod y bydd ganddi gefnogaeth lawn y Bwrdd wrth iddi arwain Gofal Cymdeithasol Cymru i'w bennod nesaf. Rwy'n ei llongyfarch yn gynnes ar ei phenodiad."
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: "Mae Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn rôl bwysig i'n sefydliad, ac rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog yn penodi Teej fel ein Cadeirydd nesaf.
“Mae Teej eisoes wedi gweithio'n agos gyda ni fel aelod o'r Bwrdd, ac edrychwn ymlaen at gryfhau'r berthynas honno wrth iddi gamu i'r swydd newydd hon.
“Hoffwn i hefyd gydnabod y cyfraniad eithriadol a wnaed gan ein Cadeirydd presennol, Mick Giannasi, dros y saith mlynedd diwethaf.
“Mae Mick wedi bod yn arweinydd ymroddedig a chefnogol, gan hyrwyddo Bwrdd amrywiol ac annog ystod eang o safbwyntiau sydd wedi helpu i lunio a hyrwyddo ein gwaith ar draws y sector gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
“Ymunwch â mi i groesawu Teej i'w rôl newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at barhau â'n gwaith gyda'n gilydd wrth i ni fynd ar drywydd newydd ac ymdrechu i gael effaith bositif ar y sector gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.”
Ynglŷn â Katija Dew
Mae Katija yn arweinydd profiadol iawn yn y trydydd sector a'r sector cyhoeddus gyda phortffolio cyfoethog o rolau bwrdd, yn enwedig ym meysydd iechyd, gofal, cynhwysiant ariannol a chyfiawnder cymdeithasol. Yn flaenorol yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae ei diddordebau penodol yn gorwedd ym mhenderfynyddion ehangach iechyd a chysylltedd y sectorau iechyd a gofal.
Fel uwch arweinydd yn y Groes Goch Brydeinig ac ymddiriedolwr elusennau amlwg, mae hi'n dadlau dros y trydydd sector i fod yn rhan annatod o ddarparu gwasanaethau'r sector cyhoeddus. Yn ei bywyd y tu allan i'r gwaith, mae Katija yn ofalwr di-dâl. Mae bod yn rhan o'r gymuned rhedeg a beicio yn Ne Cymru hefyd yn bwysig iddi, yn enwedig trwy parkrun, lle mae hi'n Gyfarwyddwr Ddigwyddiad ac yn annog pawb i fwynhau amser yn yr awyr agored, cysylltu ag eraill ac yn y byd natur.