Jump to content
Newidiadau i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Newyddion

Newidiadau i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn dilyn adolygiad ledled y DU, mae'r NOS ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant wedi'u diweddaru. Mae’r NOS newydd ar gael i'w pori a'u lawrlwytho ar wefan Sgiliau ar gyfer Gofal a Datblygiad.

Mae'r gyfres hon o NOS yn disgrifio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant i safon arfer da a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae'r NOS wedi'u datblygu gan sefydliadau gosod safonau ledled y DU, mewn partneriaeth â chyflogwyr, gweithwyr, pobl â phrofiad byw a rhanddeiliaid eraill.

Fel rhan o'r broses adolygu, mae'r iaith wedi'i symleiddio i adlewyrchu arfer cyfredol yn well. Lle bo'n briodol, mae NOS wedi'u cyfuno i gael gwared ar ddyblygu ac mae bylchau yn y cynnwys wedi'u nodi a'u datrys.

Mae 151 NOS. Mae pob safon yn cynnwys y meini prawf perfformiad a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer arfer da.

Mae diwygiadau 2026 yn pwysleisio pwysigrwydd themâu fel:

  • ymarfer sy'n seiliedig ar drawma
  • urddas, caredigrwydd a chydymdeimlad
  • cyfranogiad a gwneud penderfyniadau
  • niwroamrywiaeth
  • cynaliadwyedd.

Ychwanegwyd pedwar NOS newydd hefyd. Y rhain yw:

  • Goruchwylio a chefnogi eraill
  • Hyrwyddo chwarae
  • Arwain effeithiolrwydd timau
  • Arwain y defnydd o dechnoleg ddigidol.