Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o’r sector gofal cymdeithasol i ddatblygu cynllun newydd ar gyfer y wefan. Bydd yn haws i chi ei ddefnyddio, yn enwedig os ydych chi’n defnyddio ffôn symudol.
Rydyn ni wedi sicrhau eich bod chi’n gallu gweld eich:
• rhif cofrestru
• enw cyflogwr
• cynnydd datblygiad proffesiynol parhaus
• dyddiadau pwysig.
Os ydych chi’n gyflogwr, fe welwch nodiadau atgoffa i’ch helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gofrestriad eich gweithlu.
Fel rhan o’n hymrwymiad i wella GCCarlein yn barhaus, byddwn ni’n parhau i wrando ar eich syniadau ac yn gweithio i wneud GCCarlein yn well.
Cadwch lygad allan, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y wefan newydd yn barod i chi ei defnyddio.