Jump to content
Dathlu ein gweithwyr gofal eithriadol
Newyddion

Dathlu ein gweithwyr gofal eithriadol

| Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr

Rwy’n gwybod o brofiad am waith pwysig y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, felly roeddwn i’n falch iawn o helpu i gyflwyno ein Gwobrau blynyddol ochr yn ochr â’r darlledwr Garry Owen y mis diwethaf.

Mae’r Gwobrau’n cydnabod ac yn dathlu gwaith rhagorol ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Rydw i wedi bod yn edrych ymlaen at y digwyddiad ers i mi ddechrau fy swydd fel Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru yr haf diwethaf.

Y gwobrau hyn yw ein ffordd ni o ddathlu’r gwaith hanfodol, sy’n aml yn cael ei wneud yn ddistaw bach, i gefnogi plant, oedolion a theuluoedd yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Maen nhw’n ffordd o ddiolch i’r rheini sy’n gweithio ym maes gofal – sy’n hollbwysig gan fod llawer o weithwyr gofal yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi ddigon, er gwaethaf y parch sydd gan y cyhoedd ac unigolion sy’n defnyddio gofal a chymorth at y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu.

Cyflwynwyd gwobrau i chwe enillydd yn y seremoni yng Nghaerdydd:

  • Gwasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Prosiect Recriwtio Rhyngwladol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cysylltu Sir Gâr
  • Tîm Dilyniant Cyngor Sir y Fflint
  • Avril Bracey, cyn-bennaeth y gwasanaeth gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghyngor Sir Gâr
  • Sarah Sharpe, gwarchodwr plant cofrestredig gyda Poppins Daycare yn y Barri.

Llongyfarchiadau mawr i’r chwe enillydd a’r 11 a gafodd ganmoliaeth hael!

Nid y rhain yw’r unig wobrau rydyn ni’n eu cynnal bob blwyddyn – rydyn ni hefyd yn cynnal y wobr Gofalu yn Gymraeg.

Mae’r wobr hon yn dathlu’r gweithwyr anhygoel sy’n darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg. Ei nod yw ysbrydoli eraill i ddechrau dysgu, magu eu hyder, a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith.

Does dim angen i’r gweithwyr allu siarad Cymraeg yn rhugl. Rydyn ni’n chwilio am unigolion sy’n defnyddio’r iaith wrth ddarparu gofal a chymorth – mae ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell!

Ar hyn o bryd rydyn ni’n derbyn enwebiadau ar gyfer y wobr eleni. Felly, os ydych chi’n adnabod gweithiwr arbennig ym meysydd gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae neu’r blynyddoedd cynnar anhygoel sy’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, beth am eu henwebu ar gyfer y wobr?

Mae’r cyfnod enwebu ar agor tan 27 Mehefin a chyhoeddir yr enillydd mewn seremoni arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 7 Awst.