Mae prosiect realiti rhithwyr yn Ynys Môn, rheolwr byw â chymorth o Ben-y-bont ar Ogwr a chlwb dydd Sadwrn i blant yng Nghasnewydd ymhlith enillwyr y Gwobrau 2026.
Y Gwobrau yw ein gwobrau blynyddol sy’n dathlu ac yn rhannu gwaith rhagorol ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Cyflwynwyd gwobrau i saith enillydd yn y seremoni eleni a gynhaliwyd yng Ngwesty Parkgate yng Nghaerdydd ar ddydd Iau, 2 Gorffennaf.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan y darlledwr adnabyddus Garry Owen a Phrif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sarah McCarty.
Roedd mwy na 140 o brosiectau a gweithwyr gofal o bob cwr o Gymru wedi ymgeisio neu gael eu henwebu ar gyfer y gwobrau eleni. Yna, llywiodd panel o feirniaid arbenigol rhestr fer derfynol o 11 prosiect ac wyth gweithiwr.
Roedd y beirniaid yn cynnwys aelodau o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.
Dywedodd Mick Giannasi, Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’r bobl a’r sefydliadau sy’n darparu gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn wirioneddol amhrisiadwy.
“Rydyn ni’n gwybod, er gwaethaf yr heriau sylweddol maen nhw’n eu hwynebu, eu bod yn parhau i ddarparu gofal a chymorth rhagorol i rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.
“Mae’r bobl a’r prosiectau rydyn ni wedi’u cydnabod heddiw yn rhoi cipolwg i ni ar ehangder gwaith y sector gofal yng Nghymru a’r gwahaniaeth enfawr y mae gofal a chymorth yn ei wneud i fywydau pobl.
“Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig os ydyn ni am barhau â’n gwaith o godi proffil y cyhoedd o’r gwasanaethau gofal a chymorth hanfodol a ddarperir i blant, oedolion a theuluoedd o ddydd i ddydd ledled Cymru.”
Ychwanegodd Sarah McCarty: “Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi ymgeisio neu enwebu timau neu weithwyr oherwydd mae’n golygu y gallwn ni barhau â’r gwaith hynod bwysig hwn o gydnabod, dathlu a rhannu rhagoriaeth mewn gofal.
“Llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr haeddiannol. Mae mor bwysig ein bod ni’n cymryd yr amser hwn i gydnabod, dathlu a rhannu eich llwyddiannau, ac yn hollbwysig – i ddiolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud. Diolch yn fawr!
“Byddwn ni’n cyhoeddi fideos byr o’r gwasanaethau ac unigolion eithriadol hyn ar ein gwefan i gefnogi’r broses o rannu’r ymarfer da ledled Cymru.”