Jump to content
Cerdyn gweithiwr gofal yn dod i ben
Newyddion

Cerdyn gweithiwr gofal yn dod i ben

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar 30 Medi 2026, byddwn ni’n dod â’r cerdyn gweithiwr gofal i ben.  

Fe wnaethon ni gyflwyno'r cerdyn yn 2020 ar anterth pandemig Covid-19 i helpu gweithwyr gofal i adnabod fel gweithwyr allweddol a derbyn buddion fel mynediad â blaenoriaeth i archfarchnadoedd. Nid yw’n cerdyn cofrestru.  

Yn ddiweddarach, fe wnaethon ni bartneru â Discounts for Carers i helpu gweithwyr gofal i gofrestru ar gyfer y budd-daliadau sydd ar gael trwy’r gwasanaeth.

Gan fod yr angen gwreiddiol am y cerdyn a’i fuddion wedi gostwng, a gall gweithwyr gofal bellach gofrestru i gael gwasanaethau gostyngiadau a gwobrau heb y cerdyn, rydyn ni wedi penderfynu ei fod yn amser i ddod â’r cerdyn i ben.

Gall gweithwyr gofal yng Nghymru parhau i gofrestru ar gyfer Discounts for Carers i wneud defnydd o’u budd-daliadau. Tra bod gweithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar hefyd yn gymwys i gael gostyngiadau a gwasanaethau gwobrau eraill fel y Blue Light Card.

Os ydych chi'n ddeiliad cerdyn, nodwch y bydd eich cerdyn yn dod i ben ar 30 Medi 2026. Nid yw'n gysylltiedig â’ch cofrestriad, felly ni fydd yn effeithio ar eich cofrestriad mewn unrhyw ffordd.  

Os hoffech chi wirio dyddiadau eich cofrestru, gallwch wneud hynny drwy fewngofnodi i’ch cyfrif GCCarlein neu drwy chwilio’r Gofrestr.