Law yn llaw ag Arolygiaeth Gofal Cymru, rydyn ni wedi creu canllaw i'ch helpu i feithrin a datblygu diwylliannau cadarnhaol yn eich sefydliad.
Bydd ein canllaw Cefnogi diwylliannau cadarnhaol yn eich helpu i ddarparu gwell gwasanaethau a gwella canlyniadau i bobl sy'n darparu ac yn defnyddio gofal a chymorth.
Mae'r canllaw yn dwyn ynghyd egwyddorion allweddol diwylliannau cadarnhaol ac yn cynnwys dolenni i adnoddau i'ch helpu i ddechrau defnyddio'r egwyddorion.
Mae hefyd yn cynnwys fideos gan arweinwyr ysbrydoledig mewn gofal cymdeithasol, yn rhannu eu cyngor a'u profiadau personol o greu diwylliannau cadarnhaol.
Meddai Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: