Jump to content
Arolwg y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant ar agor
Newyddion

Arolwg y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant ar agor

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ein harolwg y gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant bellach ar agor, ac rydyn ni'n awyddus i glywed gan bobl sy'n gweithio ar draws y sector yng Nghymru.

Dyma'r ail flwyddyn i ni gynnal yr arolwg hwn. Mae'r hyn a ddywedoch chi wrthym ni llynedd wedi rhoi darlun cliriach i ni o'r gweithlu. Bydd arolwg eleni yn adeiladu ar hynny, gan ein helpu i ddeall beth sydd wedi newid, beth sydd angen sylw o hyd, a pha gefnogaeth y gallai fod ei hangen ar y gweithlu yn y dyfodol.

Mae Ymchwil a Mewnwelediad Strategol (SRI) yn rheoli'r arolwg ac yn dadansoddi'r canfyddiadau ar ein rhan.

Mae eich barn yn bwysig

Os ydych chi'n gweithio ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant, dyma'ch cyfle i ddweud wrthym ni beth sy'n gweithio'n dda, beth sy'n anodd, a beth fyddai'n helpu i wneud y sector yn lle gwell i weithio.

Mae'r arolwg yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau. Mae'n gwbl ddienw - ni fyddwn yn gofyn am eich enw ac ni fydd eich ymatebion yn cael eu cysylltu'n ôl â chi.

Helpwch ni i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl trwy rannu'r arolwg gydag ymarferwyr, staff ac eraill sy'n gweithio ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant. Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y cryfaf a mwyaf defnyddiol fydd y canfyddiadau.

Mae'r arolwg yn cau ddydd Llun, 30 Tachwedd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Michael Davies yn Strategic Research and Insight:

E-bost: mike@strategic-research.co.uk 
Ffôn: 07447 044491